Hyfforddi Arloeswyr Meddygol y dyfodol
26 Chwefror 2016
Cyhoeddi MSc newydd cyn BioCymru 2016
Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio rhaglen Meistr newydd i hyfforddi arloeswyr meddygol y dyfodol.
Mae'r lansiad yn ymateb i'r galw cynyddol gan weithwyr meddygol proffesiynol a chleifion, am ddatblygiadau ym maes gofal iechyd.
Datblygwyd yr MSc Arloesedd ac Ymchwil Feddygol gyda phartneriaid diwydiannol yn y sectorau gofal iechyd a biodechnoleg. Bydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael hyfforddiant o'r radd flaenaf, yn unol â'r datblygiadau diweddaraf ym maes arloesedd meddygol.
Cyhoeddwyd y rhaglen MSc cyn BioCymru 2016 ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Mawrth, 1 Mawrth). Mae BioCymru yn gynhadledd ac yn arddangosfa flaenllaw ar gyfer y gwyddorau bywyd yng Nghymru, ac mae'n dwyn ynghyd arloeswyr, y diwydiant ac academyddion o bedwar ban y byd i ddatblygu technolegau gwyddorau bywyd y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Ian Weeks, y Deon Cyswllt ar gyfer Arloesedd Clinigol: "Mae Prifysgol Caerdydd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod ar flaen y gad o ran arloesedd. Roeddem yn teimlo mai'r cam cywir, felly, fyddai defnyddio'r wybodaeth a'r arbenigedd hwn i hyfforddi arloeswyr meddygol y dyfodol. Bydd y rhaglen yn rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau lefel uwch i raddedigion, mewn meysydd sy'n prysur newid. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys diagnosteg, datblygu dyfeisiau meddygol a rheoli arloesedd clinigol. Mae'n rhaglen newydd gyffrous, ac rydym yn hyderus y bydd graddedigion yn elwa ar y profiad."
Dywedodd Dr Stuart Woodhead, Rheolwr Gyfarwyddwr Invitron Ltd - cyflenwr byd-eang ar gyfer pecynnau prawf diagnostig o ansawdd uchel, sydd wedi'i leoli yn Sir Fynwy: "Bydd y rhaglen Meistr Arloesedd ac Ymchwil Feddygol yn helpu i gadw Cymru ar flaen y gad o ran arloesedd clinigol. Bydd gan raddedigion sydd â dealltwriaeth drylwyr o feysydd gan gynnwys diagnosteg a datblygu dyfeisiau meddygol, y sgiliau i helpu i droi ymchwil yn gynnyrch a gwasanaethau uniongyrchol a fydd o fudd i gwmnïau yn y sector hwn, ac a fydd yn dod â llewyrch i Gymru hefyd."
Caiff yr holl waith addysgu ei wneud drwy gyfrwng e-ddysgu, sy'n rhoi hyblygrwydd i'n gweithwyr proffesiynol meddygol. Mae'r asesiadau'n ymwneud â'r 'byd go iawn' i wneud yn siŵr y gall myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau yn y gwaith.
Mae'r rhaglen yn rhan o ymgyrch Caerdydd i fanteisio i'r eithaf ar arloesedd clinigol ledled y Brifysgol. Mae gan Gaerdydd ddiwylliant arloesedd sydd eisoes yn ffynnu - mae'n cysylltu diwydiant, busnesau a'r llywodraeth ag academyddion, yn meithrin entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr, ac yn hyrwyddo busnesau i ddatblygu ar lawr gwlad.
Bydd Campws Arloesedd newydd yng Nghaerdydd, werth £300m, yn helpu academyddion a phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i droi cwestiynau ymchwil yn atebion 'go iawn'. Bydd yn darparu'r cyfleusterau sydd eu hangen i ddod â busnesau, y llywodraeth, y sector gwirfoddol a'r gymdeithas ddinesig ynghyd ym mhob maes, gan gynnwys y gwyddorau bywyd, peirianneg a gweithgynhyrchu, a'r economïau creadigol a digidol.