Neil Wellard 1957-2020
4 Ebrill 2020
Roedd Neil yn wyddonydd drwy hyfforddiant ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf ym Mhrifysgol Caint a PhD o Brifysgol Manceinion mewn Ffiseg, ac roedd dull trwyadl a threfnus y gwyddonydd yn rhywbeth y parhaodd i'w gymhwyso drwy gydol ei yrfa fel academydd rheoli.
Arweiniodd gwaith masnachol cynnar gyda chwmnïau blaenllaw yn seiliedig ar dechnoleg yn cynnwys Philips a Gwneuthurwr Asglodion Inmos at symud i ymgynghoriaeth reoli, ac oddi yno i ysgoloriaethau rheoli. Treuliodd bymtheg mlynedd yn addysgu yng Nghasnewydd ac Abertawe, gan gynnwys chwe blynedd yn arwain Canolfan Datblygu Dysgu Casnewydd, cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2008.
Mae pwyslais ar ddatblygu dysgu yn rhywbeth y parhaodd Neil i'w wneud drwy gydol ei amser gyda ni yn Ysgol Busnes Caerdydd. Roedd yn wirioneddol ymroddedig i roi'r profiad dysgu gorau y gallent ei gael i fyfyrwyr. Dangoswyd hynny drwy natur ac ansawdd ei ddosbarthiadau, drwy fabwysiadu technolegau dysgu newydd yn gynnar, a thrwy ei dueddiad i gyd-archwilio newidiadau cynlluniedig i'r cwricwlwm neu drefniadau addysgu i sicrhau nad oeddent yn cynnwys peryglon cudd a allai achosi anfantais i unrhyw fyfyrwyr.
Boed yn addysgwr, yn oruchwyliwr neu yn Gadeirydd Bwrdd Arholi, roedd Neil bob amser yn ymroi i weld myfyrwyr yn llwyddo. Roedd y pleser a gafodd trwy achub un myfyriwr MSc yr oedd y rhan fwyaf o'r lleill (gan gynnwys y myfyriwr ei hun) wedi rhoi'r gorau iddi, drwy oruchwyliaeth traethawd hir cryf a chefnogol, yn rhywbeth yr wyf yn ei gofio'n glir.
Roedd hefyd yn gydweithiwr gwirioneddol hael a fyddai bob amser yn barod i helpu pobl eraill, er ei fod yn aml yn ysgwyddo llwyth gwaith trwm ei hun. Roedd nifer o'r adroddiadau cyntaf a glywais am Neil, cyn i mi ddod i'w adnabod yn iawn fy hun, gan gydweithwyr yn adrodd rhywbeth tebyg i 'Mae'n iawn, aeth Neil i'r adwy ac achub y sefyllfa'. Roedd Neil yn gefnogwr brwd o gydweithwyr bob amser ac roedd yn un i fynd ati i roi cyngor synhwyrol a meddylgar.
Roedd gan Neil synnwyr digrifwch garw hefyd a bydd ei gydweithwyr yn gweld eisiau hynny o fewn yr Adran Marchnata a Strategaeth ac yn ehangach ar draws Ysgol Busnes Caerdydd.
Roedd yn aml yn ddiamynedd am beth o'r gwaith biwrocratiaeth sy'n rhan anochel o fywyd ysgol busnes cyfoes, yn enwedig os oedd yn teimlo nad oeddent yn ychwanegu gwerth at addysg y myfyrwyr. Ond gallai fod yn ddoniol ac yn dreiddgar wrth fynegi hynny.
Roedd gan Neil gariad mawr at gerddoriaeth glasurol, yn aml byddai'n mynychu cyngherddau cerddorfeydd yn Neuadd Dewi Sant ac Opera yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac roedd bob tro'n hapus i siarad am gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd.
Âi ei gyfraniad y tu hwnt i Ysgol Busnes Caerdydd hefyd. Roedd yn llysgennad ar gyfer pwrpas gwerth cyhoeddus yr Ysgol cyn i ni ffurfioli ein strategaeth.
Wrth imi ddod i'w adnabod, gwnaed argraff arnaf gan y ffordd yr aeth ag arbenigedd ei fusnes i'r gymuned i helpu eraill. Roedd hyn yn cynnwys ei waith yn helpu grwpiau dan anfantais fel y digartref neu ffoaduriaid i wireddu eu potensial drwy entrepreneuriaeth, a'i waith yn cefnogi prosiect Porth Cymunedol Grangetown y Brifysgol drwy gyfraniadau i Erddi Prosiect Pafiliwn Grangetown a Fforwm Busnes Grangetown.
Hefyd, arweiniodd ei waith gyda'r ffoaduriaid gyfraniadau addysgegol ar entrepreneuriaeth gyda Neil yn cyflwyno papurau mewn gweithdai diweddar yn yr UDA a'r Almaen. Drwy'r gwaith hwn, arweiniodd y ffordd wrth ddangos sut y gall cynnwys myfyrwyr mewn prosiectau cymunedol go iawn ddarparu cyfleoedd dysgu rhagorol tra'n sicrhau manteision ymarferol i'r gymuned leol hefyd.
Nid oedd pryder Neil dros eraill wedi'i gyfyngu i aelodau'r gymuned, i gydweithwyr ac i fyfyrwyr. Er enghraifft, sefydlodd elusen i achub ieir caeth oedd yn ymddeol rhag cael eu lladd. Yn fynych y gyrrai ar draws y DU i gasglu adar, gan ddod â nhw yn ôl i'w ardd ei hun i'w cadw cyn eu symud ymlaen i berchnogion newydd. Roedd gan hyn fanteision a oedd yn mynd ymhell y tu hwnt i les yr ieir - i rai cydweithwyr lwcus byddai cyfarfod yn y bore gyda Neil yn golygu blwch braf o wyau ffres a thrafodaeth fanwl am fagu anifeiliaid.
Nid oedd pryderon lles Neil am ieir caeth ddim yn gyfyngedig i ieir caeth oedd wedi ymddeol - yn ddiweddar ymunodd â nifer o gymdogion cydnerth i arbed haid o hwyaid lleol rhag cael eu bwyta gan llwynog llwglyd. Pan ddychwelodd i'r gwaith ar ôl ei benwythnos yn achub hwyaid yr oedd yn gwbl amlwg, o'i bigyrnau wedi'u rhwymo, fod Neil wedi ymuno â'r hwyaid yn y pwll wrth eu hachub.
Mae'n bosibl mai rhywbeth llai adnabyddus fyth oedd cariad Neil at wneud caws. Fel y dywedodd un cydweithiwr: "Rhoddodd Neil slab o gaws imi un Nadolig, a oedd yn llyfn ac yn flasus – cafodd y teulu cyfan ei synnu gan pa mor dda oedd e".
Yn dawel ac yn dalentog a phob amser yn ofalgar dyna sut y bydd pobl yn ei gofio yma. Mae’n bosibl mai ei weithred olaf yn y gwaith oedd ymuno â chydweithiwr i ddechrau rhaglen allgymorth gyda'r Wallich a thîm a sbardunwyd gan Gwpan Pêl-droed Digartref y Byd wrth gefnogi chwaraewyr o dîm pêl-droed Cymru, gan eu helpu i adeiladu dyfodol gwell iddynt hwy eu hunain.
Fel athro ymroddedig, cydweithiwr hael a rhywun a adeiladodd rai pontydd pwysig rhwng yr ysgol a'r gymuned, bydd colled fawr ar ôl Neil.
Yr Athro Ken Peattie