Hedfan, nid cwympo: Helpu myfyrwyr i ymgartrefu mewn amgylcheddau newydd
3 Ebrill 2020
Cyn-fyfyriwr Iaith Saesneg yn ennill gwobr am Fledge, busnes newydd sy’n helpu myfyrwyr i ymgartrefu mewn amgylcheddau newydd
Mae cynfyfyriwr a raddiodd mewn Saesneg Iaith wedi ennill gwobr Entrepreneur Eiddgar Prifysgol Caerdydd 2020 gyda'i busnes cyntaf, bum mis ar ôl dechrau.
Defnyddiodd y cynfyfyriwr Gabriella Holmes y sgiliau a ddysgodd ar ei gradd i ddatrys problem mae miloedd o fyfyrwyr yn ei hwynebu wrth geisio ymgartrefu mewn amgylcheddau cwbl newydd bob blwyddyn.
Mae'r gwasanaeth paru cyd-letywyr yn helpu myfyrwyr ôl-raddedig a rhyngwladol i integreiddio i'r gymuned leol ac osgoi unigrwydd drwy gynnig rhwydwaith o gymorth cymdeithasol.
Sefydlwyd Fledge ym mis Tachwedd 2019 gan dri ffrind a ysbrydolwyd gan drafodaeth am ymgartrefu mewn dinas newydd a mwynhau profiad dilys.
Manteisiodd y cynfyfyriwr Saesneg Iaith a raddiodd yn 2018 ar gymorth dechrau busnes Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion am hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio, yn cynnwys cyfarfodydd gyda mentor busnes a chyllid sbarduno o'r cysyniad i ddechrau masnachu a gwireddu'r freuddwyd.
Gan weithredu yn Leeds lle cyfarfu'r sylfaenwyr Gabriella a'r graddedigion Joshua Kirby a David Anacleto, mae Fledge yn proffilio data i ffurfio grwpiau lletya i fyfyrwyr sy'n dod i'r ddinas gan weithio gyda landlordiaid achrededig yng nghanol ardaloedd y myfyrwyr. Mae hefyd yn gweithredu fel rhwydwaith cymorth penodol drwy gydol blynyddoedd y myfyriwr yn y brifysgol.
Dyma gyngor y cyn-fyfyriwr Gabriella i unrhyw un sy'n dechrau busnes:
"Crëwch dîm amrywiol o bobl sy'n rhannu eich gweledigaeth. Bydd hyn yn golygu bod gan bawb rôl sydd wedi’i diffinio’n glir yn eich busnes gyda phawb yn dod â set unigryw o sgiliau. Bydd heriau ar y ffordd, ac mae cael gwahanol safbwyntiau'n sicrhau'r cyfle gorau i chi ymdrin â nhw'n llwyddiannus."
Bwriad y busnes, sy'n gobeitho ehangu yn y dyfodol, yw helpu cynifer â phosibl o fyfyrwyr rhyngwladol ac ôl-raddedigion yn Leeds. Y nod tymor hir yw ehangu i brif ddinasoedd prifysgol y DU. Cadwch olwg am Fledge yng Nghaerdydd yn fuan.
Gyda chefnogaeth Santander a Darwin Gray, cyhoeddwyd gwobr Entrepreneur Eiddgar 2020 yng Ngwobrau Busnesau Newydd Myfyrwyr Caerdydd yn y Tramshed ar 26 Mawrth.