Tsiecoslofacia yn ailddarganfod ei gorffennol yn ei geiriau ei hun
3 Ebrill 2020
Yr argraffiad cyntaf mewn Tsieceg o gyfrol bwysig ar Tsiecoslofacia ddegawd ar ôl y cyhoeddiad cyntaf seismig
Mae fersiwn Tsieceg cyntaf cyfrol bwysig am hanes Tsiecoslofacia wedi'i chyhoeddi yn y flwyddyn sy'n nodi deng mlynedd ar hugain ers chwyldro Tsiecoslofacia yn 1989.
Lansiwyd Czechoslovakia The State That Failed gan yr hanesydd blaenllaw Mary Heimann yn ninas Prague a chafodd ganmoliaeth uchel, ddeng mlynedd ar ôl i'r llyfr ymddangos gyntaf.
Cyfieithwyd y gyfrol yng Gweriniaeth Tsiec yn dilyn blwyddyn o gyllido torfol, a lluniwyd broliant y clawr gan Brif Weinidog cyntaf Gweriniaeth Tsiec a'r Dirprwy Weinidog Slofacaidd dros Faterion Tramor.
Ymhlith y pwysigion yn y lansiad roedd y Prif Weinidog Tsiecaidd cyntaf Petr Pithart, cyn arweinydd Fforwm Ddinesig a sylfaenydd Siarter 77 Jan Urban, y cyn Weinidog Cyfiawnder Jan Kalvoda a Llysgennad Prydain yn y Weriniaeth Tsiec Nick Archer. Canmolwyd cyfraniadau Heimann i'r genedl Tsiecaidd fel enghreifftiau o ymwneud cadarnhaol gan Brydain mewn materion Bohemaidd ochr yn ochr â Wycliffe, Sir Nicholas Winton a Syr Roger Scruton.
Dywedodd yr Athro Heimann: "Mae'r gyfrol yn ceisio cydbwyso honiadau a gwrth-honiadau'r holl bobloedd - Tsiecaidd, Slofacaidd, Almaenig, Hwngaraidd, Pwylaidd, Ruthenaidd, Iddewig, Roma - oedd ar un adeg yn ddinasyddion talaith a elwid yn Tsiecoslofacia, oedd ei hun yn ficrocosm o Ewrop yr ugeinfed ganrif. Fy niben yn darlunio ochr dywyllach cenedlaetholdeb - yn yr achos hwn cenedlaetholdeb Tsiecaidd a Slofacaidd yn bennaf - oedd dangos i'r darllenydd cyffredinol beryglon cynhenid parhau â mythau cenedlaetholgar lle cyflwynir eich ochr chi eich hun fel dioddefwr cyfiawn gydag unrhyw niwed a wnaed i eraill yn cael ei anwybyddu neu fychanu."
Bu'r awdur, yr Athro Heimann, yn trafod y gyfrol gyda myfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Charles cyn y lansiad a chynhadledd i'r wasg yng Nghlwb Busnes Prague, ac ar 26 Chwefror rhoddodd gyfweliadau arbennig i'r papur dyddiol annibynnol Deník N a'r cylchgrawn materion cyfoes Echo.
Hefyd cafodd yr Athro Hanes Modern yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd gyfweliad manwl gyda’r darlledwr Tsiecaidd DV TV.
Cynhaliwyd y lansiad hanesyddol dri mis ar ôl digwyddiad tystion y Chwyldro Melfed gan Brifysgol Caerdydd Cenhedlaeth ’89 i nodi deng mlynedd ar hugain ers chwyldro heddychlon Tsiecoslofacia, lle cyfarfu cyn-elynion chwyldro 1989 â'i gilydd i rannu atgofion o flaen cynulleidfa fyw yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Caiff ffilm ddogfen o ddatganiadau'r tystion allweddol ei hadneuo yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd ac mae'n waddol parhaus o'r foment arwyddocaol hon mewn hanes.
Mae'r archif yn gartref i Gasgliad Arbennig Tsiecoslofacia sy'n tyfu ac sy’n cynnwys dogfennau a roddwyd fel rhan o Genhedlaeth '89, o gyhoeddiadau gwreiddiol gan arweinwyr y chwyldro i effemera o wrthdystiadau a Streic Gyffredinol 1989.
Mae Czechoslovakia The State That Failed nawr ar gael yn rhyngwladol yn Saesneg a Tsieceg.