Ewch i’r prif gynnwys

Canllawiau newydd wedi’u cyhoeddi i helpu gohebwyr i lywio’r newyddion mewn cyfnod anarferol

7 Ebrill 2020

Pile of newspapers next to a laptop

Mae gan newyddiaduraeth rôl hanfodol wrth roi gwybodaeth am Covid-19 mewn cyfnod o ansicrwydd, aflonyddwch a phryder mawr, yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd.

Mae’r Athro Karin Wahl-Jorgensen o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi treulio degawd yn astudio rôl emosiynau mewn newyddiaduraeth, gan gynnwys wrth ohebu am argyfyngau a thrychinebau. Ar gais Conffederasiwn GIG Cymru, mae wedi llunio dogfen sy’n cynghori newyddiadurwyr ynghylch sut i ymdrin â'r Coronafeirws, gan ddefnyddio mewnbwn gan arbenigwyr annibynnol ar draws meysydd newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a'r byd academaidd.

Mae'r canllawiau wedi'u hanelu'n bennaf at newyddiadurwyr sydd heb brofiad o weithio ar bynciau iechyd neu'r rhai sydd wedi’u symud o feysydd eraill. Mae'n canolbwyntio ar sut i ymdrin â'r pandemig yn ddiogel ac yn amlygu pwysigrwydd cywiro gwybodaeth anghywir.

"Mae'r galw digynsail am wybodaeth yn dangos pwysigrwydd cyfryngau newyddion cadarn mewn cymdeithas ddemocrataidd," meddai'r Athro Wahl-Jorgensen. "Ar yr un pryd, rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r angen i ddiogelu gwaith hanfodol y GIG, wrth i staff rheng flaen drin y nifer cynyddol o gleifion y mae'r salwch yn effeithio arnynt."

"Rwy'n gobeithio bydd y canllawiau’n cynorthwyo'r cyfryngau newyddion ledled Cymru yn eu hymdrechion i'n helpu i wneud synnwyr o gyfnod hynod bryderus i ni gyd."

Dywedodd Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru: "Mae ymdrin â Covid-19 yn her enfawr i'r GIG a'i staff. Covid-19 sy’n cael y prif sylw ar y newyddion, ac mae gan newyddiadurwyr rôl hanfodol o ran cynorthwyo'r cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Byddant yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ac yn craffu ar ymateb y Llywodraeth, y GIG a chyrff y sector cyhoeddus.

"Bwriad y canllawiau hyn, a ysgrifennwyd gan newyddiadurwyr ac academyddion, yw helpu'r rheini sy'n gohebu ar faterion iechyd, yn enwedig y rhai sy'n newydd i'r maes.  Mae'n amlinellu'r heriau a gyflwynir i'r GIG wrth weithio gyda'r cyfryngau a sut y gall newyddiadurwyr ohebu ar y materion diweddaraf yn ddiogel ac yn gyfrifol.

"Hoffem ddiolch i Brifysgol Caerdydd a chydweithwyr o bob rhan o'r DU am lunio'r cyngor hwn. Rydym yn sicr y bydd yn cynnig fframwaith cadarn ar gyfer newyddiadurwyr a chydweithwyr ledled y GIG yng Nghymru drwy gydol y cyfnod hwn."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.