Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn cynnig hyfforddiant diwylliannol i Deloitte
1 Ebrill 2020
Daeth staff o un o’r pedwar cwmni cyfrifeg mwyaf ar lefel fyd-eang, Deloitte, i weithdy arbennig ynghylch diwylliant Tsieina’n gynharach eleni.
Hon yw’r ail flwyddyn y mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn gweithio gyda’r sefydliad, a bwriad y sesiwn oedd rhoi gwybodaeth am ddiwylliant y wlad i’r rheiny sy’n ymddiddori mewn datblygu cyfleoedd busnes gyda chwsmeriaid Tsieineaidd.
Drwy sesiwn gyflwyno ddifyr ond llawn gwybodaeth am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, roedd y cyfranogwyr yn gallu rhoi cynnig ar wneud llusernau. Mae hwn yn draddodiad y credir y byddai’n dychryn ‘yr anghenfil Nian’ i ffwrdd, ac yn cynrychioli dymuniad am ddyfodol disglair. Roedd y gweithgaredd yn gyfle i staff brofi gŵyl lusernau draddodiadol i nodi diwrnod olaf y dathliadau, yn ogystal â chymryd hoe rhag eu diwrnodau gwaith prysur. Hefyd, cafodd aelodau o Deloitte gymryd rhan mewn seremoni de, traddodiad Dwyreiniol sy’n symboleiddio purdeb, llonyddwch, parch a chytgord.