Budding Brunels
10 Chwefror 2016
Y genhedlaeth nesaf o adeiladwyr yn cael blas ar fywyd yn y brifysgol
Agorodd y Brifysgol ei drysau fel rhan o fenter genedlaethol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig i ymgymryd â'r diwydiant adeiladu.
Bu ugain o ddisgyblion Blwyddyn 12 o ysgolion yng Nghaerdydd a Chaerffili, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ysgol Lewis Pengam, ac Ysgol Gyfun Lewis i Ferched, yn cymryd rhan mewn rhaglen ymgysylltu tri diwrnod o hyd o'r enw Budding Brunels, o dan arweiniad Construction Youth TrustCymru.
Ariannwyd y cwrs gan Network Rail, ac roedd yn gyfle i gydweithio ag Ysgol Peirianneg y Brifysgol, a fu'n cynnal ac yn cefnogi dau o dri diwrnod y cwrs.
Nod y cwrs oedd hysbysu ac ysbrydoli pobl ifanc na fyddai yn draddodiadol, o bosibl, yn ystyried dilyn cwrs prifysgol na gyrfa ym meysydd peirianneg, adeiladu na'r amgylchedd adeiledig. Roedd gan yr Ymddiriedolaeth, y Brifysgol a Network Rail raglen lawn o sgyrsiau, teithiau, sesiynau holi ac ateb, gweithgareddau ymarferol a chyngor gyrfaol ar gyfer y myfyrwyr.
Siaradodd Steve Watts, darlithydd yn yr Ysgol Peirianneg, â'r myfyrwyr ynghylch rôl bwysig peirianneg yn ein bywydau bob dydd a manteision addysg prifysgol, a bu'n arwain taith dywys o amgylch yr Ysgol.
Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithgareddau ymarferol, gan gynnwys her i ddylunio ac adeiladu pont, a chawsant werthfawrogiad hefyd o'r effaith ehangach y mae adeiladu'n ei chael ar yr amgylchedd a chymunedau lleol lle cynhelir y gwaith.
Dywedodd Deavon Sinclair, Cydlynydd Ysgolion ac Addysg Bellach Construction Youth Trust Cymru: "Mae gweithdai Budding Brunels wedi bod yn llwyddiant ysgubol dro ar ôl tro, ac mae'n ffordd wych o godi ymwybyddiaeth am y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.
"Mae dod â phrifysgolion a phartneriaid y diwydiant fel Network Rail ynghyd fel hyn yn darparu profiadau ymarferol, go iawn, a all helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am eu camau nesaf ar ôl iddynt adael yr ysgol."
Dywedodd Vicki Roylance, Pennaeth Tîm Ehangu Cyfranogiad y Brifysgol: "Rydym wedi ymrwymo i godi dyheadau ymhlith pobl ifanc sy'n cael eu tangynrychioli ym maes addysg uwch yng Nghymru yn draddodiadol.
"Drwy weithio gydag elusennau fel yr Ymddiriedolaeth, gallwn fod yn allweddol wrth ddarparu cyfleoedd i ddarganfod pa mor werth chweil y gall y brifysgol fod, a sut gall fod yn llwybr at ddilyn gyrfa mewn peirianneg ac adeiladu."
Mae'r Ymddiriedolaeth yn elusen sy'n darparu hyfforddiant a chyrsiau adeiladu am ddim i bobl ifanc. Mae llawer o'r bobl ifanc hyn yn dod o gefndiroedd difreintiedig neu'n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant. Nod yr Ymddiriedolaeth yw chwalu'r rhwystrau a allai atal pobl ifanc rhag cael mynediad at gyfleoedd sy'n bodoli. Mae hefyd yn helpu ag amcan hirdymor y diwydiant i sicrhau gweithlu mwy amrywiol.