Hyder mewn Gofal
9 Chwefror 2016
Treial yn ceisio gwella cyfleoedd mewn bywyd i blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru
Gwella cyfleoedd
mewn bywyd i blant sy'n derbyn gofal ledled Cymru sy'n cael y prif sylw gan
dreial pwysig newydd o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Dengys ffigurau diweddar gan elusen gofal maeth bod tua un plentyn o bob deg
sy'n derbyn gofal yn y DU yn symud i leoliad arall o leiaf dair gwaith mewn
blwyddyn.
Dengys data'r Llywodraeth bod plant sy'n derbyn gofal bedair gwaith yn fwy
tebygol na'u cyfoedion o ddioddef problemau iechyd meddwl, yn llai tebygol na'u
cyfoedion o wneud yn dda yn yr ysgol ac weithiau'n profi cam-drin pellach neu
esgeulustod mewn lleoliad gofal.
Nod y treial 'Hyder mewn Gofal' sydd wedi'i hariannu gan y Loteri Fawr yw mynd i'r afael â hyn drwy helpu plant sy'n
derbyn gofal i symud yn fwy llwyddiannus i fyd oedolion.
Bydd yn gwerthuso effeithiolrwydd cwrs hyfforddiant newydd 12 wythnos o hyd,
sy'n darparu cyngor ymarferol a strategaethau sydd wedi'u dylunio i wella'r
berthynas rhwng gofalwyr a phlant.
Mae'r cwrs hefyd am wella sut mae gofalwyr yn ymdopi â'u cyfrifoldebau gofal,
yn ogystal â chynyddu eu sgiliau gofal.
Bydd llwyddiant y cwrs - o'r enw 'Fostering Changes'- yn cael ei
werthuso drwy ddadansoddi adborth gan ofalwyr ar ôl ei gwblhau.
Bydd hefyd yn mesur pa mor dda mae gofalwyr yn teimlo eu bod yn gallu gofalu am
y plant ar ôl eu hyfforddiant, a bydd yn ystyried unrhyw symudiadau heb eu
cynllunio ac ymgysylltiad plant ag addysg.
Dywedodd cyfarwyddwr y treial, Dr Michael Robling, o Ganolfan Treialon Ymchwil
Prifysgol Caerdydd:
"Mae'r treial yn gyfle cyffrous
i brofi ymyriadau yn y sector gofal cymdeithasol yn drylwyr, ac mae'n dwyn
ynghyd arbenigedd o ran dulliau treialu a gofal cymdeithasol plant o'r
Brifysgol gyfan."
Drwy gynhyrchu tystiolaeth gadarn ynglŷn ag effeithiolrwydd tymor hwy'r cwrs Fostering
Changes ar gyfer gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau, bydd y treial
yn cyfrannu at y sail dystiolaeth ryngwladol ar wella canlyniadau i blant sy'n
derbyn gofal.
Mae'r treial am
recriwtio 490 o ofalwyr a chaiff ei gynnal tan 2017. Daw ar adeg pan fo pwysau
cynyddol ar niferoedd y gofalwyr maeth.
Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae angen tua 9,070 o deuluoedd maeth newydd ledled
y DU eleni i ddarparu gofal sefydlog a chariadus ar gyfer plant.
Mae Hyder mewn Gofal yn gonsortiwm o'r sefydliadau blaenllaw sy'n gweithio gyda phlant sy'n cael eu maethu ac sy'n derbyn gofal yng Nghymru a ledled y DU, ac mae'n cynnwys Prifysgol Caerdydd, y Rhwydwaith Maethu, Gweithredu dros Blant, Barnardo's a TACT.