Banc Canser Cymru yn derbyn hwb cyllidol gan Lywodraeth Cymru
31 Mawrth 2020
Mae un o'r banciau meinwe mwyaf a mwyaf sefydledig yn y DU wedi derbyn dros £2.4 miliwn o gyllid i gefnogi ei gyfraniadau gwerthfawr i ymchwil canser arloesol.
Banc Canser Caerdydd, ym Mhrifysgol Caerdydd, yw un o'r banciau meinwe mwyaf a mwyaf sefydledig yn y DU ac mae'n fanc meinwe canser blaenllaw drwy'r byd. Dyfarnwyd cyllid i'r banc bio gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel rhan o fuddsoddiad o £44 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ymchwil ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.
Meddai Dr Richard Clarkson, Darllenydd yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Gwyddoniaeth Banc Canser Cymru: "Banc bio yw Banc Canser Cymru sy’n casglu samplau o feinweoedd a gwaed gan gleifion yng Nghymru.
"Mae dros 15,000 o gleifion yng Nghymru wedi gwneud cyfraniad i Fanc Canser Cymru dros y 15 mlynedd ddiwethaf, ac mae dros 7,000 o samplau meinwe wedi'u hanfon at ymchwilwyr canser yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf. Mae'r samplau hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn ymchwil i ganser.
"Rydym ni wrth ein bodd i dderbyn y dyfarniad hwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cydnabod y gwasanaeth a ddarperir gan Fanc Canser Cymru ac sy'n cynnig cyfle i ni gynyddu ein capasiti yn y dyfodol.
"Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i ni barhau â'n gwaith ac ehangu'r gwasanaeth hollbwysig hwn."
Bydd arian y llywodraeth yn cyllido gwaith Banc Canser Cymru dros y pum mlynedd nesaf wrth iddo ddechrau ar gyfnod newydd o weithredu. Bydd y dyfarniad yn galluogi'r banc bio i ehangu ei wasanaeth i'r gymuned ymchwil canser byd-eang, yn ogystal â rhwydwaith y DU o dreialon clinigol ar gyfer amrywiaeth eang o fathau o ganser.
"Mae Banc Canser Cymru wedi bod yn arwain y byd, ac mae'r gefnogaeth hon gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ein galluogi i ehangu ein gorwelion i ddarparu samplau banc bio i gyd-ymchwilwyr canser ar draws y byd.
"Hefyd ni fyddai gwaith Banc Canser Cymru yn bosibl heb y cyfraniadau gan gleifion canser Cymru. Caiff eu samplau meinwe eu defnyddio mewn ymchwil yn fyd-eang, i helpu i dargedu canser yn fwy effeithiol," ychwanegodd Dr Richard Clarkson.