Taflegrau anghymesur
8 Chwefror 2016
Canlyniadau annisgwyl wrth edrych mewn manylder nanosgopig ar ran o'r system imiwnedd sy'n tyllu i facteria ymledol ac yn eu hollti
Mae cymhlygion ymosod y bilen (MACs) yn strwythurau a wnaed o broteinau sy'n ymgynnull yn y corff pan ganfyddir haint. Maent yn glynu wrth bilenni bacteria ymledol, megis llid yr ymennydd, ac yn creu twll ynddynt.
Yn y pen draw, os bydd digon o MACs yn creu twll yn y bilen, bydd y
bacteria'n hollti ac yn marw. Mae MACs o ddiddordeb arbennig mewn ymchwil
canser, oherwydd gall rhai celloedd canser eu hosgoi.
Yn yr astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Nature Communications,
bu ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Choleg Imperial Llundain yn edrych ar y
MAC gan ddefnyddio microsgopeg cryo-electron. Mae'r dechneg hon, sy'n
datblygu'n gyflym, yn gallu edrych ar strwythurau protein cymhleth ar gydraniad
manylach na nanometr – un rhan o biliwn o fetr.
Cafwyd canlyniadau annisgwyl wrth wneud hyn. Yn hytrach na bod yn gylch
cymesur caeëdig o broteinau, sydd i'w gweld fel arfer drwy edrych ar strwythurau
protein tebyg, datgelwyd bod gan y MAC siâp cylch â hollt ynddo, gan arwain at
anghymesuredd.
Dywedodd Paul Morgan, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau'r
Brifysgol ac arweinydd y prosiect yng Nghaerdydd: "Mae'r strwythur newydd
hwn yn gweddnewid ein dealltwriaeth o sut mae'r MAC yn ffurfio, ac yn agor
meysydd newydd ar gyfer ymchwilio i sut mae'n gweithio - yn enwedig sut mae'n
cysylltu â llwybrau signal i ysgogi celloedd. Dyna bwnc mae fy ngrŵp wedi bod
yn ymchwilio iddo ers dros ddeng mlynedd ar hugain!"
"Pan fydd y cylch yn hollti ac yn anghymesur, nid yw'r MAC yn tyllu'n
llwyr i bilen y bacteria," dywedodd cydawdur yr astudiaeth, Dr Doryen
Bubeck o Adran y Gwyddorau Bywyd yn y Coleg Imperial.
"Mae hyn yn arwain at gyfres newydd sbon o gwestiynau am ei swyddogaeth. A yw'n synhwyro rhywbeth am y bilen? A yw'n rhoi signal i broteinau eraill?"