Ewch i’r prif gynnwys

Penderfyniadau Ymlaen Llaw i Wrthod Triniaeth (ADRT)

8 Chwefror 2016

Jenny Kitzinger

Galw am gamau i wella dealltwriaeth a defnydd yng Nghymru

Yn ôl adroddiad newydd, mae angen cymryd camau i hysbysu a chynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy'n gwneud Penderfyniadau Ymlaen Llaw i Wrthod Triniaeth (ADRT).

Mae 'Penderfyniad Ymlaen Llaw' yn gofnod cyfreithiol o'r triniaethau y gall pobl eu gwrthod pe byddent yn colli'r gallu i wneud penderfyniadau o'r fath dros eu hunain yn y dyfodol.

Gall hyn gynnwys gwrthod triniaeth sy'n eich cadw'n fyw os ydych mewn cyflwr diymateb parhaol o ganlyniad i salwch neu ddamwain car.

Ar hyn o bryd, dim ond 2% o bobl yng Nghymru sy'n gwneud penderfyniadau o'r fath - canran is na Lloegr a gwledydd eraill yn Ewrop.

Mae'r adroddiad, a baratowyd gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW), yn tynnu sylw at nifer o gamau y gallai Llywodraeth Cymru ac elusennau a sefydliadau eraill eu cymryd i wneud yn siŵr bod pobl yn deall sut gallant gynllunio eu gofal ymlaen llaw, yn ogystal â'u hawl i wrthod triniaeth.

Dywedodd yr Athro Jenny Kitzinger o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol a chyd-awdur yr adroddiad: "Mae rhai pobl yn teimlo'n gryf iawn nad ydynt am gael ymyriadau meddygol penodol o dan rai amgylchiadau – mae'n bwysig eu bod yn gwybod sut i ddiogelu eu dewisiadau.

"Mae llawer yn credu, yn anghywir, bod hawl gan y berthynas agosaf i wrthod triniaeth ar eich rhan os nad ydych yn gallu gwneud penderfyniadau ar y pryd.

"Os na fyddwch yn cymryd camau, y meddygon fydd yn gwneud y penderfyniad ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer. Mae rhai pobl yn fodlon ar hynny, ond nid yw pawb yn cytuno.

"Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn eich galluogi i wneud eich dewisiadau eich hun ymlaen llaw – mae'n bwysig bod pobl yn deall beth yw eu dewisiadau."

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion pwysig.

Mae'r rhain yn cynnwys: cynyddu ymwybyddiaeth o ADRT yng Nghymru drwy addysg gyhoeddus ac ymgysylltu yn y cyfryngau; normaleiddio ADRT; hyfforddi ymarferwyr; a chreu ystorfa genedlaethol yng Nghymru fydd yn tynnu sylw at benderfyniadau pwysig mewn achosion brys, a gwneud yn siŵr bod dogfennau llawn am ADRT ar gael.

Mae'r adroddiad, Cynyddu dealltwriaeth a defnydd o Benderfyniadau Ymlaen Llaw yng Nghymru, ar gael ar wefan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru