Ar ras i redeg
3 Chwefror 2016
Mae staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr wedi bod yn trio eu crysau Tîm Caerdydd arbennig cyn Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd
Mae gan y Brifysgol dîm o 200 o redwyr yn cymryd rhan yn y ras ddydd Sadwrn 26 Mawrth.
Daeth sawl un o redwyr Tîm Caerdydd i nôl crys-t brand y Brifysgol, yn rhad ac am ddim, mewn digwyddiad galw heibio'r wythnos hon. Bu Pennaeth Chwaraeon y Brifysgol, Stuart Vanstone, yn trafod â'r tîm hefyd.
Roedd Dylan y Ddraig wrth law i gefnogi hefyd.
Dydd Iau 4 Chwefror, bydd 50 diwrnod tan y ras fawr, ble disgwylir i bencampwr y Gemau Olympaidd, Mo Farah, gymryd rhan.
Bydd dros 200 o athletwyr gorau'r byd o 50 o wledydd yn dod i Gaerdydd, er mwyn brwydro i gyrraedd y brig, a dod yn Bencampwr Hanner Marathon y Byd.
Bydd hyd at 20,000 o redwyr ras dorfol yn ymuno â nhw, a fydd yn cael y cyfle i 'Redeg yn Ôl-troed y Goreuon' drwy gwblhau'r un ras 13.1 milltir o amgylch Caerdydd ar yr un pryd ag athletwyr gorau'r byd.