Mae menywod i'w gweld mwy nag y maent i'w clywed yn y newyddion ar-lein
3 Chwefror 2016
Ymchwil newydd sy'n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn canfod bod safbwynt a llais dynion yn fwy amlwg na menywod
Dadleuwyd ers tro byd y caiff menywod eu tangynrychioli a'u gwthio i'r cyrion o'u cymharu â dynion yng nghyfryngau newyddion y byd. Mae gwaith ymchwil newydd gan brifysgolion Caerdydd a Bryste, sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI), wedi dadansoddi dros ddwy filiwn o erthyglau i ddarganfod sut y cynrychiolir y rhywiau yn y newyddion ar-lein. Dyma'r astudiaeth fwyaf i'w chynnal hyd yma, a chanfu y cynrychiolir safbwynt a llais dynion fwy na menywod yn y newyddion ar-lein.
Yn fwy diddorol, efallai, yw'r canfyddiad bod menywod yn ymddangos yn amlach na dynion mewn delweddau, er eu bod yn cael eu tangynrychioli ar y cyfan. Crybwyllir dynion yn amlach na merched mewn testun. Mae dadansoddiad o bynciau'n dangos bod menywod yn ymddangos yn amlach mewn erthyglau am ffasiwn, adloniant a chelf, a'u bod yn lleiaf amlwg mewn pynciau gan gynnwys chwaraeon a gwleidyddiaeth.
Daeth tîm o arbenigwyr AI yn Labordy Systemau Deallusol (ISL) Prifysgol Bryste, o dan arweiniad Nello Cristianini, Athro Deallusrwydd Artiffisial, ynghyd â'r gwyddonydd cymdeithasol, Dr Cynthia Carter o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd, i ofyn cwestiwn hen iawn ar raddfa newydd iawn. Faint o ddynion a faint o fenywod sy'n cael eu crybwyll yn y newyddion, neu eu portreadu mewn delweddau papur newydd, dros gyfnod maith ac mewn cannoedd o bapurau newydd gwahanol?
Mae AI modern, sy'n cael sylw cyson yn y newyddion, yn adnodd gwych i gefnogi gwaith ymchwil. Gall awtomeiddio tasgau a fyddai'n cymryd gormod o lawer o amser i fodau dynol eu cyflawni. Mae bellach yn bosibl awtomeiddio'r dasg o adnabod a yw wyneb yn wrywaidd neu'n fenywaidd, i lefel anhygoel o gywirdeb. Mae hefyd yn bosibl canfod cyfeiriadau at bobl mewn testun ar-lein, ynghyd â'u rhyw.
Cyhoeddwyd y papur yn y cyfnodolyn PLOS ONE, ac mae'n adrodd canfyddiadau astudiaeth ar raddfa fawr, sy'n seiliedig ar ddata, o gynrychiolaeth dynion a menywod yn y cyfryngau newyddion cyfrwng Saesneg ar-lein. Mae'r ymchwilwyr wedi dadansoddi geiriau a delweddau i roi darlun ehangach o sut y cynrychiolir y rhywiau yn y newyddion ar-lein.
Casglodd y tîm gorff o newyddion a oedd yn cynnwys 2,353,652 o erthyglau a gasglwyd dros gyfnod o chwe mis, o dros 950 o fathau gwahanol o newyddion. O'r set ddata hon, canfuwyd 2,171,239 o gyfeiriadau at unigolion a enwyd, a 1,376,824 o ddelweddau, a defnyddiwyd AI i bennu a oedd yr enwau a'r wynebau'n wrywaidd neu'n fenywaidd.
Canfu'r ymchwilwyr fod dynion yn cael eu cynrychioli'n amlach na menywod mewn delweddau a thestun, ond mewn cyfraddau a oedd yn newid gan ddibynnu ar bwnc, math o newyddion ac arddull.
Yn ogystal, roedd cyfran y menywod yn uwch mewn delweddau nag mewn testun bron bob tro, ni waeth beth oedd y pwnc na'r math o newyddion. Roedd menywod yn fwy tebygol o gael eu cynrychioli'n weledol na chael eu crybwyll fel gwrthrych neu ffynhonnell y newyddion.
Dywedodd Nello
Cristianini, o Adran
Mathemateg Peirianneg Prifysgol Bryste: "Ychydig flynyddoedd yn ôl, ni fyddai
wedi bod yn bosibl i gyfrifiadurbennu rhyw wyneb, na phrosesu cymaint o destun,
gyda'r cywirdeb a'r cyflymder angenrheidiol.
Mae
dadansoddi miliynau o erthyglau a delweddau yn un o'r ffyrdd y gall AI modern
helpu gwaith ymchwil gwyddonol. Pan ddaw Data Mawr ac AI ynghyd, gwelwn
fanteision mewn sawl maes, e.e. busnes a thechnoleg. Gallwn bellach weld
manteision yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â gwyddoniaeth hefyd."
Ychwanegodd Dr Cynthia Carter, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y Brifysgol: "Mae ein dadansoddiad ar raddfa fawr, sy'n seiliedig ar ddata, yn cynnig tystiolaeth empirig bwysig o batrymau macrosgopig mewn cynnwys newyddion. Mae'n cefnogi honiad hir-sefydlog ymchwilwyr ffeministaidd bod llais menywod yn cael ei wthio i'r cyrion yng nghyfryngau'r newyddion, a bod hyn yn tanbrisio eu cyfraniadau posibl i gymdeithas, ac felly, yn tanseilio democratiaeth."
Mae'r papur, ‘Women are seen more than heard in online newspapers’ ar gael yma.