Ewch i’r prif gynnwys

Ymdeimlad cadarnhaol ymhlith pobl ifanc ym Merthyr Tudful

27 Ionawr 2016

 teenagers infront of graffiti wall

Ymchwil yn datgelu teimladau pobl am leoliadau a gaiff eu stigmateiddio

Mae pobl ifanc ym Merthyr Tudful yn teimlo'n llawer mwy cadarnhaol am eu hardal na'r hyn sy'n cael ei awgrymu gan y delweddau negyddol ohoni yn y cyfryngau dro ar ôl tro, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r tîm ymchwil – sy'n cynnwys Dr Eva Elliott, yr Athro Emma Renold, Dr Gareth Thomas, yr Athro Martin Innes (i gyd o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd), a'r Athro Gabrielle Ivinson (Prifysgol Fetropolitan Manceinion) – wedi cynnal prosiect gyda phobl ifanc i amlinellu eu teimladau a'u profiadau o ran iechyd a lles, lle, a rheoleiddiad yn eu cymuned.

Fel rhan o'r prosiect, roedd pobl ifanc yn cael eu hannog i drin a thrafod y materion sydd o bwys i'r gymuned, a throi'r materion hynny'n gamau gweithredu sy'n arwain at newid.

Mewn papur newydd, mae Dr Gareth Thomas yn astudio sut mae pobl ifanc ym Merthyr Tudful yn ystyried eu hiechyd a'u lles eu hunain, wrth gael eu magu mewn lleoliad a gaiff ei stigmateiddio.

Meddai Dr Thomas: “Y tu allan i Ferthyr, mae stigma yn aml ynghlwm wrth y dref, diolch i raddau helaeth i bolisïau problematig y llywodraeth a delweddau negyddol yn y cyfryngau, er enghraifft y rhaglen ddogfen deledu ddiweddar Skint. Mae hyn yn golygu nad yw pwerau cadarnhaol ac asedau pobl ifanc yn cael eu cydnabod yn aml. Roeddem am weithio gyda phobl ifanc ym Merthyr i bwyso a mesur eu hymdeimlad eu hunain o iechyd a lles, gyda'r cefndir hwn o stigma sy'n gysylltiedig â lle".

Mae'r papur yn seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd gyda phobl ifanc 14-15 oed ym Merthyr. Mae'n amlygu'r ffaith bod ar lawer o bobl ifanc eisiau gweld darlun mwy cytbwys o fywyd yn y dref, gan ddisgrifio'r manteision niferus yn sgîl byw ym Merthyr Tudful, gan gynnwys y gweithgareddau sydd ar gael, y gymuned glos, ac ymdeimlad cryf o berthyn.

Meddai Dr Thomas: "Roedd y bobl ifanc y buom yn siarad â nhw yn teimlo'n gadarnhaol iawn am eu bywydau ym Merthyr ar y cyfan, ac roedd rhai yn beirniadu'r cyfryngau ac eraill am gyflwyno delweddau negyddol o'u tref enedigol. Roedd llawer ohonynt yn trafod eu hymdeimlad cadarnhaol o iechyd a lles drwy gyfeirio at yr adnoddau cyhoeddus sydd ar gael, y trigolion cyfeillgar, cysylltiadau teuluol, hanes cyfoethog y dref, a'r dirwedd agored."

Fodd bynnag, mae Dr Thomas hefyd yn dadlau y gallai stigma sy'n gysylltiedig â lle effeithio ar iechyd trigolion ifanc Merthyr o hyd, mewn amrywiol ffyrdd. Er enghraifft, gall cael eu stigmateiddio achosi straen a bod yn niweidiol i gyfleoedd bywyd pobl ifanc, a gall effeithio ar eu mynediad at adnoddau i wrthsefyll y straen hwnnw hefyd. Mae'n honni y gall stigma sy'n gysylltiedig â lle wanhau polisïau cymdeithasol blaengar drwy wrthwneud ymdrechion i herio anghydraddoldeb, a thrwy gyfyngu ar fynediad at adnoddau materol a all wella iechyd y boblogaeth.

Ychwanega: "Mae cyngor Merthyr yn cael ei annog i arbed £15.3m dros bedair blynedd [o 2014 ymlaen] drwy wneud toriadau i wasanaethau fel addysg, trafnidiaeth, canolfannau ieuenctid a gofal cymdeithasol i bobl hŷn. Mae'r toriadau hyn yn llunio polisïau ac arferion mewn ffyrdd a allai waethygu iechyd pobl ifanc, yn y dyfodol agos a phell."

Mae'r gwaith ymchwil hwn yn rhan o'r rhaglen Productive Margins. Ariennir y rhaglen hon gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, ac mae'n cynnwys cyrff cymunedol a mentrau cymdeithasol yn ne Cymru a Bryste, ac academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste. 

Drwy weithio gydag academyddion o wahanol ddisgyblaethau, partneriaid cymunedol ac artistiaid, nod y rhaglen yw caniatáu i bobl sy'n aml ar y cyrion o ran pŵer a phenderfyniadau fod yn greadigol ac yn angerddol, a defnyddio eu gwybodaeth, wrth greu ffyrdd newydd ar y cyd o wneud gwaith ymchwil, ymgysylltu a gwneud penderfyniadau.

Cyhoeddir “‘It’s not that bad’: Stigma, health and place in a post-industrial community” yn y cyfnodolyn Health & Place. Mae ar gael yma, ar fynediad agored oddi ar wefan y cyfnodolyn.