Rhedwyr ras fawr o dan sylw mewn ymchwil
26 Ionawr 2016
Astudiaeth gan y Brifysgol yn ystyried pam mae pobl yn rhedeg
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwil gyda rhedwyr dibrofiad mewn hanner marathon rhyngwladol pwysig i weld beth sy'n ysgogi pobl i redeg.
Cynhelir Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd IAAF, a noddir gan Brifysgol Caerdydd, yn y ddinas ddydd Sadwrn, 26 Mawrth.
Mae'r tîm ymchwil o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau o'r digwyddiad yn helpu trefnwyr rasys torfol i ddenu amrywiaeth ehangach o redwyr yn y dyfodol, a gwella iechyd y genedl yn sgîl hynny.
Meddai Dr Liba Sheeran, sy'n arwain yr astudiaeth: "Mae lefelau isel o weithgarwch corfforol yn ffactor arwyddocaol a allai achosi salwch a marwolaeth o ganlyniad i amrywiaeth o achosion.
"Er bod pawb yn gwybod bod ymarfer corff yn dda i chi, yr her yw canfod beth sy'n eu cymell i fod yn egnïol a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.
"Er gwaethaf y dystiolaeth fod rasys torfol yn gynyddol boblogaidd, nid yw'n hysbys a yw pobl yn parhau i ymarfer yn rheolaidd ar ôl cwblhau'r ras na beth sy'n eu hysgogi neu'n eu hatal rhag rhedeg."
Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth ymhlith 500 o bobl sy'n rhedeg am y tro cyntaf a gafodd eu recriwtio gan drefnwyr y digwyddiad, Run4Wales. Rhoddwyd lleoedd am ddim i'r rhedwyr hyn drwy raglen cyfrifoldeb cymdeithasol Athletau Er Byd Gwell (ABW) yr IAAF.
Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn cael cynnig dwy raglen atal anafiadau wrth i'r ras agosáu: Fideos ar-lein sy'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer hyfforddiant, anafiadau cyffredin a phryd i ofyn am help; a gweithdai wyneb yn wyneb sy'n cynnwys cyngor ymarferol ynghylch rheoli poenau cyffredin, ymarferion ar gyfer rhedeg, a strategaethau cynhesu ac ystwytho.
Cynhelir y gweithdai gan Dîm Ysbrydoli Chwaraeon ac Ymarferion Ffisiotherapi Prifysgol Caerdydd o dan arweiniad yr Athro Nicola Phillips. Rhys Shorney a Tim Sharp fydd yn cyflwyno'r gweithdai gyda myfyrwyr ffisiotherapi israddedig ac ôl-raddedig.
Mae'r ymchwil yn cyd-fynd â Rhaglen Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.
Mae cysylltiad agos hefyd rhwng yr astudiaeth â Thema Ymchwil Optimeiddio Iechyd drwy Weithgarwch a Ffyrdd o Fyw Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd sy'n ceisio galluogi a hyrwyddo ffyrdd iach ac egnïol o fyw ymhlith pobl sydd â salwch ac anafiadau acíwt a chronig.
Caiff y rhedwyr eu gwahodd i lenwi arolygon ar-lein a luniwyd gan yr ymchwilwyr Dr Valerie Sparkes a Matt Townsend, bum niwrnod cyn y ras, ac wedyn 6 mis ar ôl y ras. Eu nod fydd cael gwybod, er enghraifft, beth wnaeth eu hysgogi i gystadlu ac a ydynt yn parhau i redeg ar ôl y digwyddiad.
Bydd dros 200 o athletwyr gorau'r byd o 50 o wledydd yn dod i Gaerdydd, er mwyn brwydro i gyrraedd y brig, a dod yn Bencampwr Hanner Marathon y Byd. Disgwylir i Mo Farah fod yn eu plith.
Bydd hyd at 20,000 o redwyr ras dorfol yn ymuno â nhw, a fydd yn cael y cyfle i 'Redeg yn Ôl-troed y Goreuon' drwy gwblhau'r un ras 13.1 milltir o amgylch Caerdydd ar yr un pryd ag athletwyr gorau'r byd.
Yn y cyfamser, mae Run4Wales, gyda chymorth y Brifysgol ac ABW, yn trefnu sesiwn hyfforddiant dorfol ar gyfer pob un o'r 500 o redwyr cymunedol ar 30 Ionawr, gyda help cyn-bencampwr ras glwydi 110m y byd Colin Jackson. Bydd y rhedwyr yn cwrdd ym Mhentref Hyfforddiant Chwaraeon Tal-y-bont ac yn rhedeg ar hyd llwybr Taith Taf.