Canlyniadau arbennig i raddedigion optometreg
25 Ionawr 2016
Cyfraddau pasio arholiadau proffesiynol yn uwch na'r cyfraddau cenedlaethol ar gyfartaledd
Mae graddedigion optometreg Prifysgol Caerdydd ar y brig o ran y cyfraddau cenedlaethol ar gyfartaledd, wrth ennill eu cymwysterau proffesiynol.
I ddatblygu o fod yn fyfyriwr i fod yn optometrydd proffesiynol, mae gofyn i hyfforddeion gwblhau cyfnod cyn cofrestru a gaiff ei reoli gan Goleg yr Optometryddion.
Y gyfradd pasio ar gyfartaledd ar gyfer graddedigion yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg yn 2015 oedd 92%, o'i chymharu â chyfraddau cenedlaethol o 74% ar gyfartaledd.
Mae hyfforddeion yn cwblhau tri cham, a bydd yr asesiad terfynol ar ffurf Archwiliad Clinigol Strwythurol Gwrthrychol, sy'n profi sgiliau ymarferol yr hyfforddeion.
Yn ôl yr Athro Marcela Votruba, Pennaeth yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, "Mae pasio'r arholiadau hyn yn hanfodol er mwyn bod yn optometrydd sy'n ymarfer yn annibynnol. Dro ar ôl tro, mae ein graddedigion yn sicrhau cyfraddau llwyddo sy'n sylweddol uwch na'r cyfraddau cenedlaethol ar gyfartaledd, a nhw sy'n arwain y DU yn yr arholiadau proffesiynol.
"Mae ein graddedigion hefyd yn sicrhau cyfraddau cyflogaeth o 100% cyn cofrestru, ac mae llawer o gyflogwyr yn gwybod y byddant wedi'u hyfforddi'n dda. Dengys hyn ein hymrwymiad i ddarparu addysg o safon uchel gan staff academaidd o fri rhyngwladol. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa ar brofiad ymarferol a chyfleusterau pwrpasol. Rydym yn parhau i gadarnhau ein safle fel Ysgol Optometreg fwyaf blaenllaw'r DU."
Roedd yr Ysgol ar y brig ymhlith ysgolion optometreg y DU am ansawdd ei gwaith ymchwil yn REF 2014.
Meddai Bethan Crocker (BSc, 2015), un o fyfyrwyr graddedig yr Ysgol, "Cefais lawer iawn o gefnogaeth ac anogaeth gan staff a darlithwyr yr Ysgol.
"Mae'r cwrs yn gyfuniad da o elfennau ymarferol a damcaniaethol, ac mae cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o agweddau clinigol, gan gynnwys ymweliadau â'r ysbyty a'r clinig llygaid. Credaf fod hyn yn hanfodol i lwyddiant graddedigion Caerdydd.
"Rwy'n falch bod fy mherthynas â'r Ysgol yn parhau, wrth i mi weithio yn y clinig llygaid fel yr Optometrydd cyn cofrestru."