Anwybyddu iselder ymysg cleifion sy'n colli eu golwg
25 Ionawr 2016
Ymchwil newydd yn cefnogi galwadau am brosesau sgrinio iselder mewn clinigau golwg gwan
Yn ôl gwaith ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae bron i hanner y bobl sy'n mynd i glinigau golwg gwan y GIG i geisio cymorth gyda cholli golwg yn dioddef o symptomau iselder clinigol, ond ni roddir y driniaeth y mae arnynt ei hangen iddynt.
Mae tîm o ymchwilwyr o Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg y Brifysgol, o dan arweiniad Dr Tom Margrain, wedi uno â'r elusen Guide Dogs i ymchwilio'n llawn i'r broblem.
Canfu'r Treial Iselder a Nam ar y Golwg (DEPVIT: Depression in Visual Impairment Trial) fod 43% o bobl sy'n colli eu golwg yn brwydro yn erbyn iselder. Ond, mae gwasanaethau golwg gwan y GIG yn canolbwyntio ar yr angen corfforol yn unig, ac nid yw sgrinio seicolegol, na therapi, yn rhan annatod o'r broses adsefydlu eto.
Yn ogystal, canfu'r astudiaeth nad yw bron i dri chwarter (74.8%) y rheini sy'n sgrinio'n bositif am symptomau iselder yn cael unrhyw driniaeth ar gyfer iselder.
Ar hyn o bryd, dim ond dau wasanaeth golwg gwan ym Mhrydain sy'n sgrinio cleifion am iselder yn rheolaidd.
Canfu'r treial ymchwil tair blynedd, a gomisiynwyd gan yr elusen Guide Dogs, nad yw diagnosis a thriniaeth iselder ar gyfer pobl sy'n mynd i glinigau golwg gwan yn cael sylw o gwbl.
Mae'r diffyg cefnogaeth hwn yn atal y rheini sy'n byw gyda cholli golwg rhag cael mynediad at driniaethau hanfodol a gwasanaethau a allai eu helpu i feithrin hyder i fyw bywydau llawn ac annibynnol. Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn byw gyda cholli golwg yn y DU heddiw, ac o'r rhain, mae tua 180,000 prin yn gadael cartref ar eu pen eu hunain.
Dangosodd ymchwil DEPVIT fod 43% o'r cleifion sy'n mynd i glinigau golwg gwan yn cael sgôr uwch na chwech wrth fesur gan ddefnyddio'r Raddfa Iselder Geriatrig (GDS-15), un o'r adnoddau a ddefnyddir amlaf i sgrinio iselder. Mae unrhyw sgôr sy'n uwch na phump yn dangos lefel o iselder, ac mae 43% yn un o'r cyfraddau uchaf ar gyfer unrhyw gyflwr iechyd neu anabledd.
Dywedodd Dr Tom Margrain: "Mae canlyniadau treial DEPVIT yn hynod o frawychus.
"Mae nifer yr achosion o iselder ymysg pobl sy'n colli eu golwg ymhlith yr uchaf ar gyfer unrhyw gyflwr iechyd neu anabledd, ac eto nid oes bron dim darpariaeth ar gyfer sgrinio iselder.
"Mae angen ymchwil pellach ar frys, er mwyn i ni allu gwerthuso'r ffordd orau o ddarparu'r gefnogaeth briodol ar gyfer y grŵp risg uchel hwn.
"Ond ar hyn o bryd, y peth gorau y gallwn ei wneud yw cyflwyno prosesau sgrinio iselder mewn clinigau adsefydlu golwg gwan ledled y DU, a chynnig cyfeirio pobl at y meddyg teulu yn ôl yr angen.
"Rydym yn gobeithio y bydd ein hargymhellion yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn cael eu hintegreiddio yng ngofal y GIG."
Dywedodd Jenny Cook, Pennaeth Strategaeth ac Ymchwil yr elusen Guide Dogs: "Mae'n dorcalonnus gweld pobl sy'n colli eu golwg yn dioddef yn emosiynol.
"Mae canlyniadau'r treial hwn yn dangos yn glir bod angen integreiddio prosesau sgrinio cynnar a thriniaeth effeithiol i wasanaethau adsefydlu cyn gynted â phosibl, er mwyn gallu cefnogi pobl sy'n colli eu golwg, a'u hannog i ailafael yn eu hyder a'u hannibyniaeth.
"Am y tro cyntaf erioed, mae gennym ddata sy'n cadarnhau bod pobl sydd â nam ar eu golwg yn dioddef rhai o'r cyfraddau uchaf o iselder. Gall addasu i fywyd ar ôl colli golwg fod yn eithriadol o heriol. Mae llawer o bobl yn cael trafferth â theimladau o unigrwydd, ac yn gweld gweithgareddau roeddent arfer eu mwynhau yn fwy anodd. Gallant deimlo'n ddibynnol ar eu teulu a'u ffrindiau. Mae iselder yn salwch gwanychol sy'n rhwystr ychwanegol rhag ceisio'r cymorth a'r gefnogaeth briodol, ond gellir ei drin."
Dioddefodd Chris Glover waeledd nerfol ar ôl colli ei olwg, ac fe wnaeth ei feddyg teulu ei ddiagnosio ag iselder. Meddai: 'Pan gefais wybod fy mod wedi colli fy ngolwg, roedd yn gyfnod anodd iawn, ac roedd y teimladau negyddol yn fy llethu. Pan rydych chi yn y sefyllfa honno, rydych chi hyd yn oed yn llai tebygol o ofyn am help.
"Roedd yn rhaid i mi gyrraedd y gwaelod un cyn i mi gael sylw ar gyfer fy iselder. Roedd fy meddyg teulu'n wych, ond byddai hefyd yn braf pe bai rhywun wedi fy helpu i ymdopi â'r effaith emosiynol a oedd yn deillio o golli fy ngolwg yn llawer cynt."
Mae Guide Dogs bellach yn cefnogi Prifysgol Caerdydd yn ei chais i lansio ail gam y gwaith ymchwil, o'r enw BEWELL, i ddatblygu triniaeth fodel.
Bydd yr ail gam hwn yn hyfforddi hyfforddwyr symudedd Guide Dogs, sy'n gweithio gyda phobl sy'n byw gyda cholli golwg, i'w helpu i fod yn annibynnol, i ddarparu 'ymyriad gofal camau', sydd wedi ei dreialu'n llwyddiannus yn yr Iseldiroedd.
Mae gofal camau yn cynnwys asesu anghenion unigolyn er mwyn cynnig y driniaeth briodol ar yr adeg briodol, a datblygu'r driniaeth honno pe bai angen iddi fod yn fwy dwys. Mae'r cais am arian ar gyfer yr ail gam hwn cael ei ystyried gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) ar hyn o bryd.
O ystyried y boblogaeth sy'n heneiddio, a nifer fawr yr achosion o gyflyrau hirdymor sy'n ymwneud â cholli golwg, megis diabetes, rhagwelir y bydd nifer y bobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall yn y DU yn dyblu erbyn 2050.