Partneriaeth KTP yn cael ei galw'n 'rhagorol'
21 Ionawr 2016
Mae partneriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael ei disgrifio fel un 'rhagorol' ar ôl helpu cwmni logisteg ac anfon nwyddau byd-eang Panalpina i ddatblygu ffyrdd arloesol o helpu cwsmeriaid ragweld galw yn y gadwyn gyflenwi
Dair blynedd yn ôl, daeth Panalpina ac Ysgol Busnes Caerdydd ynghyd i geisio creu rhestrau stoc mwy effeithlon. Cymaint fu llwyddiant y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), mae bellach wedi'i hadnewyddu a'i hehangu i ganolbwyntio ar dechnolegau gweithgynhyrchu newydd fel rhestrau y gellir eu hailgyflenwi drwy ddull argraffu 3D.
Mae Panalpina wedi dyblu eu buddsoddiad yn y prosiect dwy flynedd, a'i nod yw helpu eu cwsmeriaid i nodi'r cynnyrch cywir er mwyn newid i dechnegau gweithgynhyrchu megis argraffu 3D.
Yn ddiweddar, disgrifiodd Innovate UK y bartneriaeth bresennol fel un "rhagorol". Mae prif ymchwilydd y prosiect, Nicole Ayiomamitou, hefyd wedi ymuno â Panalpina o Brifysgol Caerdydd i gyflwyno'r rhaglen argraffu 3D yn fyd-eang.
Dywedodd Nicole: "Mae'r bartneriaeth wedi rhoi rhai canlyniadau hynod gyffrous. Rydym wedi cymryd data o restrau stoc go iawn a datblygu algorithm cylch bywyd unigryw yn seiliedig ar gysyniadau mathemategol cyfoes. O ganlyniad, mae gennym bellach raglen newydd sy'n ein galluogi i ragweld y galw am gynnyrch y cwmni a llunio ei rhestr stoc yn unol â hynny."
Dywedodd Paul Thomas, Rheolwr Busnes yn y Gwasanaethau Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein boddau bod KTP Panalpina a Phrifysgol Caerdydd yn "Rhagorol" yn ôl Innovate UK. Rydym yn hen law ar gydweithio'n llwyddiannus â chwmnïau drwy gynllun KTP. Dros y 40 mlynedd ddiwethaf, mae'r Brifysgol wedi creu dros 200 o bartneriaethau gyda sefydliadau bach a byd-eang, gan ychwanegu gwerth gwirioneddol at ddiwydiant ac economi'r DU."
Erbyn hyn, mae Panalpina wedi dechrau cynnig ei galluoedd rhagweld newydd i gwsmeriaid a bydd yn parhau i fireinio'r model wrth i'r gronfa ddata sydd ar gael am restrau stoc barhau i gynyddu'n barhaus.
Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: "Rydym wedi meithrin perthynas hynod gref gyda Panalpina dros y blynyddoedd drwy bartneriaethau KTP a dyfarniadau nawdd rhagoriaeth Panalpina i fyfyrwyr. Mae'r bartneriaeth yn cynnig manteision o ran nawdd ac arian yn ogystal â thrwy gynnig astudiaethau achos 'go iawn'. Caiff y rhain eu defnyddio yn ein cyrsiau ôl-raddedig gan gynnig blas i fyd busnes i ymchwilwyr.