Cymdeithas y Gyfraith yn ennill gwobr ymgysylltu mewn seremoni wobrwyo flynyddol
26 Mawrth 2020
Bu Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Caerdydd yn dathlu yng Ngwobrau Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith LawCareers.Net y mis hwn lle enillon nhw wobr 'Ymgysylltu Gorau'.
Mae Gwobrau Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith LawCareers.Net yn cydnabod ymrwymiad cymdeithasau myfyrwyr ar draws y wlad sy'n cefnogi eu haelodau gyda gweithgareddau sy'n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau gyrfaoedd a chymdeithasol.
Teithiodd aelodau o Gymdeithas y Gyfraith yr Ysgol i Lundain i'r seremoni wobrwyo flynyddol lle'r oedden nhw wedi'u henwebu mewn dau gategori; 'Ymgysylltu Gorau' a 'Cymdeithas Orau yn Gyffredinol' ar 12 Mawrth 2020.
Er gwaethaf cystadleuaeth ragorol o Brifysgolion Aberystwyth, Birmingham a Nottingham, Cymdeithas y Gyfraith Caerdydd gipiodd y wobr 'Ymgysylltu Gorau' ar ôl i lu o enwebiadau gan eu haelodau eu gosod ar restr fer y categori.
Mae Cymdeithas y Gyfraith yn gyfrifol am gynnig cyfleoedd allgyrsiol i'w 470 o aelodau sy'n mynd y tu hwnt i'w mantolen academaidd. Mae'r 17 aelod o'r pwyllgor yn llunio cylchlythyr wythnosol ac yn defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i sgwrsio gyda'u cymheiriaid o'u diwrnod cyntaf yn yr Ysgol. Ar hyn o bryd mae gan y gymdeithas 850+ o ddilynwyr ar Instagram, 2,700 o ddilynwyr Twitter a 3,400 yn eu hoffi ar Facebook.
Mae ymgysylltu'n dechrau cyn gynted ag y bydd myfyriwr yn cofrestru i astudio'r Gyfraith gyda sesiwn holi ac ateb ddechrau mis Medi. Ar adeg a all beri braw i fyfyrwyr newydd, mae Cymdeithas y Gyfraith yn helpu drwy ateb cwestiynau ar amrywiol bynciau sy'n cynnwys prynu gwerslyfrau, mynychu dosbarthiadau a gwaith paratoi at diwtorialau.
Wrth i'r aelodau fynd drwy eu hastudiaethau, mae'n bosibl iddyn nhw ymuno â nifer o weithgareddau y mae'r gymdeithas yn helpu i'w trefnu fel Taith Gerdded elusennol flynyddol y Gyfraith, nosweithiau cymdeithasol (yn cynnwys parti Nadolig), a digwyddiadau gyrfaoedd ar y cyd â chwmnïau Cyfreithwyr (lleol ac ymhellach yn Llundain). Mae'r gymdeithas hefyd yn trefnu digwyddiadau i fyfyrwyr ar wahân i rai'r Gyfraith fel digwyddiad amrywiaeth blynyddol gyda gwesteion o amrywiol broffesiynau'n rhannu eu profiadau o amrywiaeth yn y gweithle gyda'r myfyrwyr sy'n bresennol.
Wrth siarad ar ôl y fuddugoliaeth dywedodd y Llywydd Bella Gropper, "Rwyf i mor falch o'r pwyllgor cyfan am eu gwaith caled a'u diwydrwydd eleni, sydd wedi arwain at y llwyddiant hwn. Yn bennaf oll, rydym ni'n falch i gynrychioli Prifysgol Caerdydd ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, ac yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth anhygoel maen nhw wedi'i chynnig i ni drwy gydol y flwyddyn."