Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol disglair i ddigwyddiad meddalwedd

18 Ionawr 2016

Python Namibia

Yn ôl y trefnwyr, gallai cyfarfod rhyngwladol yn Namibia, sy'n trafod meddalwedd, ac a gefnogir gan Brifysgol Caerdydd, helpu i roi Affrica wrth ganol diwydiant sydd werth biliynau o bunnoedd

Mae iaith rhaglennu Python yn hynod boblogaidd ledled y byd, ac fe'i defnyddir gan frandiau mawr ar y we megis Google, Dropbox, Pinterest ac Instagram.

Mae hefyd yn boblogaidd ymysg academyddion mewn pynciau megis mathemateg, cyfrifiadureg, meddygaeth, seryddiaeth a dadansoddi data.

Mae Python yn rhan bwysig o'r diwydiant meddalwedd ffynhonnell agored proffidiol, ond mae prinder rhaglenwyr ledled y byd. Mae hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer y rheini sydd â'r sgiliau angenrheidiol.

Gyda lwc, bydd PyCon Namibia 2016 yn helpu i ysbrydoli cenhedlaeth o raglenwyr Python yn Namibia i ddatblygu'r feddalwedd, i fodloni eu hanghenion eu hunain ac anghenion eu gwlad.

Cynhelir y digwyddiad ym Mhrifysgol Namibia (UNAM) yn Windhoek, rhwng 25 a 29 Ionawr, gyda chefnogaeth gan Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, sydd wedi uno ag UNAM ar gyfer llu o weithgareddau sy'n ymwneud ag addysg, iechyd a gwyddoniaeth.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Dr Vince Knight, darlithydd yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Mae rhaglenwyr gwych yn Namibia a all helpu'r egin ddiwydiant meddalwedd mewn sawl ffordd, nid yn unig yn Namibia ond ledled Affrica.

"Mae Pinterest ac Instagram wedi'u hysgrifennu gan ddefnyddio Python, mae'n iaith bwerus iawn. Gallai'r Pinterest neu'r Instagram nesaf ddod o Namibia - pam lai?

"Hefyd, gwneir llawer o waith ymchwil gwyddonol a datblygu'r we gan ddefnyddio Python, ac mae'n bosibl creu cwmni o ddim gan ei defnyddio.

"Gall y myfyrwyr yn Namibia ddysgu sgiliau sy'n eu gwneud yn gystadleuol, ac mae hynny'n werthfawr iawn, iawn."

Cynhaliwyd y gynhadledd Python gyntaf yn Namibia y llynedd, ond mae cynhadledd 2016 yn fwy, gan ddwyn ynghyd nifer o ddatblygwyr meddalwedd proffesiynol, gwyddonwyr, academyddion a myfyrwyr ar gyfer sgyrsiau, gweithdai a chydweithio.

Mae'r rhan fwyaf o'r bobl a fydd yn bresennol yn dod o Namibia, ond daw rhai eraill o wledydd gan gynnwys Brasil, y DU, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Canada, Nigeria, Zimbabwe, Zambia a De Affrica.

Er bod Prifysgol Caerdydd ac UNAM yn parhau i gymryd rhan flaenllaw yn y digwyddiad, PyNam, Cymdeithas Python Namibia, sy'n cynnal PyCon Namibia 2016. Ffurfiwyd y gymdeithas yn sgîl digwyddiad y llynedd.

Dywedodd Jessica Upani, cadeirydd PyNam: "Rydym yn gobeithio y bydd PyCon Namibia 2016 yn ein helpu i ddod i adnabod ein gilydd a gweithio gyda'n gilydd, oherwydd gwn am bobl hynod alluog yma yn UNAM a fyddai'n elwa'n fawr ar arweiniad rhaglenwyr mwy profiadol. Galwaf felly ar y datblygwyr lleol i estyn llaw a chwrdd â ni hanner ffordd.

"Er ein bod yn datblygu ein sgiliau rhaglennu ar lefel y brifysgol, rydym ni (PyNam) yn credu y byddem yn methu pe na byddem yn cefnogi'r rhai ifanc hynny sydd yr un mor bwysig i'r daith hon, os nad pwysicach. Felly, rydym eisoes wedi dechrau cysylltu â nhw mewn ysgolion, i addysgu un neu ddau o bethau iddynt yr ydym ni wedi eu dysgu, a rhoi cyngor gyrfaol iddynt.

"Rwy'n teimlo y gallwn lwyddo cystal â gweddill y byd, ond ein cyfrifoldeb ni yw adeiladu ein tîm a'i adeiladu'n dda. Ein cyfrifoldeb ni yw meithrin hyder yn ein rhaglenwyr, ac rwy'n teimlo bod yr amser wedi dyfod."

Mae Prosiect Phoenix, sy'n cefnogi Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM ac mae o fudd i'r naill ochr fel y llall.

Mae gan staff o dri Choleg Prifysgol Caerdydd rôl uniongyrchol, yn ogystal â staff gwasanaethau proffesiynol.

Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, neu'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.