Ewch i’r prif gynnwys

Trais difrifol yn gostwng

13 Ionawr 2016

Jonathan Shepherd

Mae astudiaeth bum mlynedd wedi nodi gostyngiad 'sylweddol' mewn trais difrifol ledled Cymru a Lloegr

Mae ffigurau a gasglwyd gan Grŵp Ymchwil am Drais (VRG) Prifysgol Caerdydd rhwng mis Ionawr 2010 a mis Rhagfyr 2014, yn dangos bod trais wedi gostwng 13.8% ar gyfartaledd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd.

Am y tro cyntaf, mae'r ymchwil yn rhoi dadansoddiad rhanbarthol o gyfraddau anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais yng Nghymru a Lloegr. Cyhoeddir y canfyddiadau heddiw yn Journal of Epidemiology and Community Health.

Bu gostyngiad sylweddol ym mhob un ond dau o'r deg rhanbarth a astudiwyd o ran y niferoedd sy'n cael triniaeth mewn ysbyty ar ôl trais. Yn groes i'r duedd gyffredinol, gwelwyd gostyngiad bach iawn yn unig yn nwyrain Lloegr, yn ogystal â chynnydd bychan yn ne-orllewin Lloegr.

Yng ngorllewin canolbarth Lloegr y gwelwyd y gostyngiad mwyaf oherwydd bu cwymp o 26% yno flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn trais difrifol ar gyfartaledd. Bu gostyngiad blynyddol o 20% ar gyfartaledd yng nghyfradd yr anafiadau treisgar ymhlith bechgyn a merched (0-10 oed).

Roedd y bobl sy'n byw yng ngogledd orllewin Lloegr, gogledd-ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog a Humberside yn fwy tebygol o gael anaf sy'n gysylltiedig â thrais o'u cymharu â rhanbarthau eraill. Dynion ifanc (18-30 oed) a phobl ifanc (rhwng 11 a 17 oed) oedd y grwpiau oedd fwyaf tebygol o gael eu hanafu.


Yn gyson, misoedd Mai a Gorffennaf oedd yr adegau pan oedd trais difrifol fwyaf cyffredin, a mis Chwefror oedd y mis distawaf.

Casglwyd y data o sampl gwyddonol oedd yn cynnwys 151 o Adrannau Achosion Brys, Unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Galw i Mewn yn rhanbarthau Cymru a Lloegr. Daw'r canfyddiadau o 247,016 o ymweliadau cofnodedig 247,016 ble'r oedd angen triniaeth ar ddynion a menywod yn dilyn trais.

Mae pob un o'r adrannau a'r canolfannau hyn yn aelodau ardystiedig o'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Goruchwylio Trais (NVSN) ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi cyhoeddi adroddiadau blynyddol dros y 15 mlynedd ddiwethaf.

"Mae ein hastudiaeth yn galonogol iawn gan ei bod yn dangos gostyngiad cyson a sylweddol mewn trais yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys ymhlith plant," meddai Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil am Drais ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Jonathan Shepherd – cyd-awdur yr astudiaeth.

"Mae tystiolaeth gynyddol i awgrymu mai ymyriadau iechyd cyhoeddus a rhannu gwybodaeth yn well rhwng gwasanaethau iechyd, yr heddlu a Llywodraeth Leol sydd i'w gyfrif yn rhannol am y gostyngiad hwn.

"Mae'r ymagwedd gyfunol hon yn parhau i roi gwybodaeth a ddefnyddir i dargedu plismona, rheoli arfau a thrwyddedu alcohol yn well.

"Ond mae pryderon o hyd. Mae'r data'n dangos mai dynion ifanc 18-30 oed o hyd yw'r grŵp sydd fwyaf tebygol o gael eu hanafu mewn trais a bod cyfraddau trais yn uwch yn rhanbarthau gogledd Lloegr o'u cymharu â gweddill Cymru a Lloegr.

"Gallai fod sawl rheswm am hyn, gan gynnwys defnyddio trais fel modd o greu hunaniaeth gadarn ymhlith dynion, y ffaith bod oedolion ifanc yn yfed mwy o alcohol o'u cymharu â grwpiau oedran eraill, ac anghydraddoldebau o ran iechyd a ffyniant rhwng y de a'r gogledd."

Mae'r Athro Shepherd hefyd yn cyfeirio at effaith debygol tueddiadau yfed alcohol ar y gostyngiad cenedlaethol mewn anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais. Rhwng 2005 a 2014, bu gostyngiad o 27% yn nifer y bobl a aeth i ysbyty oherwydd trais yn ymwneud ag alcohol. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 17% yn llai o alcohol yn cael ei yfed.

Ychwanegodd: "O gofio bod trais ar ei waethaf yn yr haf yn ystod misoedd Mai a Gorffennaf, adeg pan mae yfed drwy'r dydd yn fwy cyffredin, byddai'n gwneud synnwyr i'r llywodraeth hybu ymgyrchoedd alcohol ac ymdrechion i atal trais bryd hynny."