Eich profiad dysgu yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19)
10 Mehefin 2020
Ers i’r COVID-19 ddechrau’n gynharach eleni, bu Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) a’r Brifysgol gyfan yn addysgu o bell. Roedd y newid sydyn hwn o addysgu wyneb yn wyneb i addysgu a dysgu ar-lein yn her i staff a myfyrwyr fel ei gilydd, ond yn un yr wyf yn credu ein bod wedi ymateb yn dda iddo.
Ar ôl adolygu'r sefyllfa, rydym wedi penderfynu y bydd y cyrsiau i gyd sy’n dechrau yn yr hydref yn cael eu haddysgu ar-lein. Er y bydd gennych fynediad at wybodaeth sy'n gysylltiedig â chwrs ac adnoddau dysgu ar unrhyw adeg, byddwn yn parhau i ddefnyddio sesiynau addysgu wedi’u trefnu i chi ryngweithio â'ch tiwtor, a'ch cyd-fyfyrwyr, mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rhithwir.
Rydyn ni'n gobeithio ailgyflwyno addysgu wyneb yn wyneb, pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny. Byddwn yn adolygu'r sefyllfa eto, ar gyfer cyrsiau sydd â dyddiad dechrau o fis Ionawr a thu hwnt, tuag at ddiwedd tymor yr hydref (Tachwedd 2020), ac yn diweddaru ein gwefan yn unol â hynny.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i'r rhaglen o gyrsiau bywiog a chyffrous yr ydym wedi'u cynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd manylion ar gael ar ein gwefan o fis Gorffennaf.
Dr Zbig Sobiesierski
Cyfarywyddwr, Addysg Barhaus a Phroffesiynol
Mehefin 2020