Dysgu am ddim yn 2016
11 Ionawr 2016
Mae pobl o bob cwr o'r byd wedi cymryd rhan mewn tri chwrs ar-lein gan Brifysgol Caerdydd, a byddant yn cael eu hailgynnal ym mis Ionawr a mis Chwefror.
Mae'r Cyrsiau Ar-lein Enfawr Agored (Mocs), gan FutureLearn, wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae 40,000 o bobl wedi cofrestru ar eu cyfer yn y gorffennol.
Mae'r cyrsiau yn galluogi pobl i astudio ar-lein, ble bynnag y maent yn y byd, ac mae modd cofrestru nawr ar gyfer y cyrsiau hyn sydd am gael eu hailgynnal.
Dyma'r cyrsiau: Making Sense of Health Evidence: The Informed Consumer(dechrau ar 25 Ionawr); Community Journalism: Digital and Social Media (dechrau ar 8 Chwefror); a Muslims in Britain: Changes and Challenges (dechrau ar 22 Chwefror).
Mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gorffennol o'r farn bod y cyrsiau wedi eu helpu i ddeall materion yn well. Mewn rhai achosion, maent hefyd wedi cael cryn effaith ar eu bywydau.
Mae Making Sense of Health Evidence: The Informed Consumer wedi'i baratoi i helpu pobl i weld beth yw tystiolaeth ddibynadwy ar adeg pan rydym yn cael ein boddi'n gyson o dan lu o negeseuon cymysg am iechyd.
Dyma farn Esther Cable a astudiodd y cwrs yn 2015: "Rwy'n teimlo fy mod mewn sefyllfa llawer gwell erbyn hyn i asesu cyfoeth y wybodaeth sydd ar gael.
"Rydw i'n ddiolchgar am yr ymdrech a wnaed i baratoi'r cwrs ac mae'n wych bod cwrs o'r fath ansawdd ar gael yn rhad ac am ddim i bawb."
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y pwnc. Gallai fod o ddiddordeb i bobl sydd am gael gwybod rhagor am gyflwr meddygol neu sy'n ystyried astudio pwnc sy'n ymwneud ag iechyd yn y Brifysgol.
Mae'n brosiect cydweithredol ar draws y Brifysgol sy'n dod ag arbenigwyr iechyd, gwyddorau cymdeithasol a newyddiaduraeth ynghyd.
Bob wythnos, ystyrir astudiaeth achos sy'n dangos y materion a drafodwyd. Mae'r astudiaethau'n cynnwys brechlyn MMR, defnyddio cyffuriau yn ystod beichiogrwydd, ac effaith diffyg hylif ar ein gallu.
Arweinir Community Journalism: Digital and Social Media gan yr Athro Richard Sambrook, Dirprwy Bennaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd a chyn-Gyfarwyddwr Newyddion Byd-eang y BBC.
Mae gwefannau newyddion cymunedol fel East Grinstead Online a Grimsby Spotlight wedi cael eu sefydlu'n uniongyrchol o ganlyniad i'r cwrs.
Mae dysgwyr eraill wedi dweud bod y profiad wedi eu helpu i wella eu sgiliau cysylltiadau cyhoeddus, gwella agweddau at eu hysgolion lleol, creu blog teithio neu wella eu sgiliau yn y cyfryngau.
Chwilfrydedd personol oedd y prif reswm pam yr astudiodd Lucio Albenga y cwrs. Fodd bynnag, llwyddodd y cwrs i wella sgiliau proffesiynol y datblygwr meddalwedd o'r Eidal.
Dywedodd: "Dysgais am ddulliau dadansoddi ac ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol, ac rydw i wedi defnyddio'r rhain ers hynny yn fy mywyd personol a phroffesiynol.
"Roedd yr addysgwyr yn wych a bob amser yn rhoi gwybodaeth ychwanegol ddefnyddiol drwy sylwadau a 'hangouts'. Rydw i'n ei argymell i bawb sydd â diddordeb yn y cyfryngau cymdeithasol a newyddiaduraeth."
Cynigir y trydydd cwrs, Muslims in Britain: Changes and Challenges, ar adeg pan mae trafodaethau am Islam yn cael y prif sylw yn y newyddion ac ym myd gwleidyddiaeth.
Mae pobl yn gweld mwy a mwy o benawdau dramatig ac ysgytwol, ond mae'n bosibl mai prin iawn yw eu gwybodaeth am Foslemiaid.
Nod y cwrs yw helpu i feithrin dealltwriaeth pobl o Fwslimiaid a'u ffydd drwy edrych ar gymunedau ym Mhrydain.
Penderfynodd Graham Hughes, cyn-athro o Stockport, astudio'r cwrs.
Dywedodd: "Rydw i'n meddwl ei fod yn hollbwysig mynd y tu hwnt i'r ystrydeb a chael dealltwriaeth fwy gwybodus o Foslemiaid ym Mhrydain.
"Mae'r cwrs wedi bod yn gam mawr tuag at gyrraedd y nod hwnnw. Byddaf yn annog ffrindiau a chysylltiadau i'w astudio pan gaiff y cwrs ei gynnal eto."
Cewch wybodaeth yma am gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim gan Brifysgol Caerdydd.