Ymchwilydd dylanwadol ym maes gwaith cymdeithasol yn ymuno â'r Brifysgol
8 Ionawr 2016
Penodi'r Athro Donald Forrester fel Cyfarwyddwr CASCADE
Mae un o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw'r DU ym maes gwaith cymdeithasol wedi ymuno â'r Brifysgol, a bydd yn helpu i ddatblygu ei henw da ymhellach o ran effaith a rhagoriaeth ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol.
Penodwyd yr Athro Donald Forrester yn Athro Gwaith Cymdeithasol gyda Phlant a Theuluoedd, a Chyfarwyddwr newydd CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant.
Mae'r Athro Forrester yn ffigur adnabyddus a dylanwadol yn ei faes, ac mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar wella ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol. Mae ei waith fel ymchwilydd gwerthuso blaenllaw yn golygu ei fod yn gallu cyfrannu at effaith Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ar ddadleuon cyhoeddus, datblygiad polisi a datblygiadau arloesol sy'n seiliedig ar ymarfer.
Yn fwyaf diweddar, mae wedi cynnal gwaith ymchwil i gyfweliadau sy'n cymell, yn y gwasanaethau i blant. Mae hefyd wedi gwerthuso 'Model Hackney' y gwasanaethau amddiffyn plant, ac wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ynghylch sefydlu cynllun integredig ar gyfer Gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd. Ymuna â Phrifysgol Caerdydd o Brifysgol Swydd Bedford, lle'r oedd yn gyfrifol am Ganolfan Tilda Goldberg, un o'r canolfannau mwyaf yn y DU sy'n ymchwilio i waith cymdeithasol.
Yn ogystal, yr Athro Forrester oedd arweinydd Frontline, y cynllun addysg gwaith cymdeithasol sy'n blaenoriaethu profiad ymarferol a dysgu'n seiliedig ar ymarfer.
Wrth drafod ei rôl newydd, dywedodd yr Athro Forrester: "Er bod CASCADE yn Ganolfan gymharol newydd, mae ganddi eisoes enw da rhagorol am ymchwil i ofal cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd. Rwy'n llawn cyffro wrth feddwl am y posibilrwydd o ddatblygu'r Ganolfan ymhellach.
"Yn ôl pob golwg, mae Prifysgol Caerdydd yn lle delfrydol i ddatblygu canolfan ragorol ar gyfer gwaith cymdeithasol. Mae wedi sefydlu rhagoriaeth ymchwil rhyngwladol, gan gynnwys canolfan DECIPHER ar gyfer gwerthusiadau cymhleth, Uned Treialon De-ddwyrain Cymru ac ymchwilwyr ansoddol o fri rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at ddatblygu prosiectau ledled y Brifysgol. Ceir cysylltiadau cryf eisoes rhwng llunwyr polisi, ymarferwyr, plant a phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau ac academyddion, a cheir ymrwymiad cadarn i gyflawni gwaith ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant yng Nghymru a thu hwnt.
"Mae'r Brifysgol hefyd yn gwneud buddsoddiad sylweddol wrth adeiladu Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK), y cyntaf o'i fath yn y byd. Nod y Parc yw dwyn ynghyd y gwaith ymchwil arloesol a gynhelir ar draws y Gwyddorau Cymdeithasol. Rwyf wrth fy modd y bydd CASCADE wrth ganol y fenter unigryw hon."
CASCADE yw'r unig ganolfan o'i math yng Nghymru, ac mae'n dod ag ymchwilwyr gofal cymdeithasol plant yng Nghymru ynghyd er mwyn hyrwyddo tystiolaeth a bodloni anghenion polisi ac ymarfer yn well er mwyn gwella'r canlyniadau ar gyfer plant a'u teuluoedd.
Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Rwy'n hynod falch bod Donald wedi ymuno â Phrifysgol Caerdydd. Bydd ei benodiad yn golygu y bydd CASCADE yn parhau i fynd o nerth i nerth."