Ystyried dyfodol mewn nyrsio iechyd meddwl
22 Rhagfyr 2015
Cwrs wedi'i ariannu gan y Llywodraeth yn ceisio cau'r bwlch mewn gofal iechyd meddwl
Ar drothwy'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau UCAS ym mis Ionawr, mae
Prifysgol Caerdydd yn annog darpar fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i ystyried
dyfodol mewn nyrsio iechyd meddwl.
Amcangyfrifir bod un o bob pedwar o bobl yn dioddef mathau amrywiol o anawsterau
iechyd meddwl. Mae'r mathau mwyaf difrifol yn achosi hunan-niweidio a
hunanladdiad.
Hunan-niweidio sydd i'w gyfrif am tua 6,000 o achosion mewn unedau achosion
brys ledled Cymru bob blwyddyn. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, fodd bynnag,
cafodd 11,198 o gleifion eu derbyn i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru
dros gyfnod o 12 mis.
Mae nyrsys iechyd meddwl yn hanfodol er mwyn gwella'r cleifion hyn a gofalu
amdanynt. Maent yn gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr gofal iechyd
proffesiynol i helpu cleifion ymdopi â'u salwch a byw bywyd mwy cadarnhaol.
Fodd bynnag, cyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2014 fod nifer y nyrsys
iechyd meddwl wedi gostwng yn ddramatig ers 2010. Roedd 3,300 o nyrsys wedi
gadael yn ystod y cyfnod hwn, gan olygu bod y proffesiwn mewn sefyllfa anodd
dros ben.
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymateb i'r prinder hwn drwy gynnig gradd arbenigol
mewn iechyd meddwl a nyrsio i fyfyrwyr o Gymru. Llywodraeth Cymru sy'n talu
ffioedd y cwrs fel rhan o'i hymrwymiad i wella iechyd meddwl a lles pobl yng
Nghymru.
"Bydd gofal iechyd meddwl yn wynebu sawl her yn y dyfodol," esboniodd
Alex Nute, tiwtor derbyn myfyrwyr o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol
Caerdydd.
"Bydd y rhain yn cynnwys cyflyrau hirdymor, poblogaeth sy'n heneiddio, a
darparu gwasanaethau mwy cymunedol y tu allan i ysbytai ar gyfer unigolion a
theuluoedd.
"Drwy gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), bydd cyfleoedd
gyrfaol amrywiol ar gael ar gyfer ein graddedigion, ac mae 98% ohonynt yn cael
swydd ar ôl cwblhau rhaglen nyrsio Prifysgol Caerdydd yn llwyddiannus.
"Gyda Llywodraeth Cymru'n talu'r ffioedd, gobeithiwn annog mwy o bobl i
ystyried yr heriau a'r hyn y gall Nyrsio Iechyd Meddwl eu cynnig yn y
dyfodol."
Mae Gradd Baglor Nyrsio (BN) tair blynedd Prifysgol Caerdydd, wedi'i hachredu
gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Yn rhan o'r radd, rhaid i fyfyrwyr
gwblhau 50% o'r rhaglen mewn gweithle clinigol.
Mae'r radd yn cefnogi'r targedau yng 'Nghoncordat Gofal Argyfwng Iechyd
Meddwl'
Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn.
Mae mwy o wybodaeth am y cwrs a nyrsio iechyd meddwl ar gael yma. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cynhyrchu fideo sy'n dangos yr heriau sy'n gysylltiedig â'r alwedigaeth, yn ogystal â'r
gwerth a gewch ohono.