Ewch i’r prif gynnwys

Peirianwyr yn creu partneriaeth gyda Tsieina i ymchwilio i ddyfodol trefol carbon isel

20 Mawrth 2020

The lights of Cardiff at night

Dyfarnwyd cyllid i'r Ysgol Peirianneg gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) ar gyfer tri phrosiect i fynd i'r afael â her datgarboneiddio’r rhwydweithiau trydan trefol yn y DU a Tsieina mewn cydweithrediad â Ffederasiwn Gwyddoniaeth Cenedlaethol Tsieina.

Er bod y ddwy wlad yn wahanol o ran maint eu poblogaeth, maen nhw'n wynebu pryderon tebyg o ran sut i fynd ati i ddatgarboneiddio rhwydweithiau trydan yn gyflym mewn ardaloedd trefol uchel eu poblogaeth. Mae manteisio'n llawn ar gapasiti trosglwyddo posibl a gwydnwch y rhwydweithiau trydan gyda'r isafswm o fuddsoddi cyfalaf yn hanfodol i ddinasyddion a llywodraethau gan fod 60% o boblogaeth Tsieina a 83% o boblogaeth y DU yn byw mewn ardaloedd trefol.

Mae ardaloedd trefol yn cynnig heriau a chyfleoedd. Mae'r galw am drydan yn enfawr oherwydd bod ardaloedd trefol yn lleoliadau arwyddocaol ar gyfer llwythi critigol fel ysbytai, meysydd awyr, rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus a chanolfannau data. Mae hyn yn creu her wrth gyflenwi'r galw hwn heb doriadau pan fydd ynni adnewyddadwy'n rhan o'r cyfuniad cynhyrchu. Ond mae natur rhyng-gysylltiedig rhwydweithiau ynni trefol yn gyfle i ddefnyddio dulliau newydd fel Rhyngrwyd Pethau (IoT), Technoleg Cofnodi Gwasgaredig (DLT) a systemau rheoli.

Rydym ni'n cydweithio gydag academyddion a diwydiant yn y DU a Tsieina i ganolbwyntio ar y dulliau newydd hyn ar gyfer cyflenwi pŵer cynaliadwy i ardaloedd trefol. Mae'r Athro Jianzhong Wu o'r Ysgol Peirianneg yn arwain un o'r prosiectau hyn o'r enw Multi-energy Control of Cyber-Physical Urban Energy Systems (MC2). Dros y tair blynedd nesaf, bydd yr Athro Wu a thîm rhyngwladol o ysgolheigion o Brifysgol Newcastle, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Tianjin, Prifysgol Tsinghua a Phrifysgol Northeast Electric Power yn cydweithio ar fodelu pensaernïaeth newydd ac ymchwilio i rôl technolegau newydd fel Pwyntiau Agored Meddal, Cerrynt Uniongyrchol Foltedd Canolig a Gefeilliaid Digidol.

Bydd yr Athro Jun Liang, hefyd o'r Ysgol Peirianneg, yn arwain yr ail brosiect o'r enw Sustainable urban power supply through intelligent control and enhanced restoration of AC/DC networks (SUPER). Gydag arbenigwyr ar gerbydau trydan o Brifysgol Newcastle, Sefydliad Ymchwil Pŵer Trydanol Tsieina, Prifysgol Amaethyddol Tsieina a Phrifysgol Southeast, bydd yr Athro Liang yn ymchwilio i weld a all dulliau modelu wedi'u sbarduno gan ddata yn seiliedig ar IoT alluogi gwasanaethau ymateb drwy gydlynu adnoddau gwasgaredig mewn rhwydwaith pŵer trefol.

Mae'r Athro Manu Haddad a Dr Steve Robson yn gyd-ymchwilwyr ar y trydydd prosiect o'r enw Technology Transformation to Support Flexible and Resilient Local Energy Systems. Arweinir y prosiect hwn gan yr Athro Tim Green o Goleg Imperial Llundain ac mae'n dod ag arbenigwyr at ei gilydd mewn electroneg pŵer, optimeiddio, rheoli a rheoli namau yn y DU a Tsieina.

Rhannu’r stori hon