Treial canser ofarïaidd mwyaf byd
17 Rhagfyr 2015
Y dystiolaeth gyntaf sy'n awgrymu bod sgrinio ar gyfer canser yr ofari yn achub bywydau
Mae canlyniadau newydd o dreial mwyaf y byd ar gyfer sgrinio canser yr ofari yn awgrymu y gallai sgrinio ar sail prawf gwaed blynyddol helpu i leihau tua 20% ar nifer y menywod sy'n marw o'r clefyd. Arweinir y Goleg Prifysgol Llundain mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a chanolfannau eraill yn y DU.
Mae'r gwaith ymchwil, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau) yn The Lancet, hefyd yn rhybuddio bod angen rhagor o ymchwil dilynol er mwyn pennu amcangyfrifon mwy pendant ar gyfer nifer y marwolaethau yn sgîl canser yr ofari y gellir eu hatal drwy sgrinio. Mae amcangyfrifon o'r canlyniadau hyd yma yn addawol, ond mae'r ymchwilwyr yn ansicr o'r union ffigurau o hyd.
Mae Treial Cydweithredol y DU ar gyfer Sgrinio Canser yr Ofari (UKCTOCS) yn dreial rhyngwladol ar gyfer sgrinio canser yr ofari, o dan arweiniad Coleg Prifysgol Llundain, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Ymchwil Canser y DU, yr Adran Iechyd a The Eve Appeal.
Yn ystod yr astudiaeth 14 blwyddyn a oedd yn cynnwys dros 200,000 o fenywod rhwng 50 a 74 oed, y mae eu mislif wedi dod i ben, cafodd 1,282 ohonynt ddiagnosis canser yr ofari. Roedd 649 wedi marw o'r clefyd erbyn diwedd y treial ym mis Rhagfyr 2014.
Dangosodd yr astudiaeth bod oedi yn y marwolaethau rhwng elfennau sgrinio a rheoli'r treial, a ddaeth yn arwyddocaol ar ôl saith mlynedd gyntaf y treial. Mae'r tîm ymchwil bellach yn cynnal gwaith ymchwil dilynol i'r astudiaeth am dair blynedd arall, er mwyn gweld beth yw effaith lawn sgrinio ar gyfer canser yr ofari.
Roedd y canlyniadau cynnar yn awgrymu y gellid atal oddeutu 15 o farwolaethau a achosir gan ganser yr ofari ar gyfer pob 10,000 o fenywod sy'n rhan o raglen sgrinio. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys profion gwaed blynyddol am 7 - 11 mlynedd.
Roedd y treial hefyd yn cadarnhau
canfyddiadau blaenorol; am bob tair menyw a gafodd driniaeth o ganlyniad i
brawf sgrin annormal, roedd canser yr ofari gan un o'r tair menyw hyn, ar
gyfartaledd. Roedd oddeutu tri y cant o'r rheini a gafodd driniaeth wedi
dioddef cymhlethdodau difrifol, sef y gyfradd cymhlethdodau arferol ar gyfer y
math hwn o driniaeth yn y GIG.
Dywedodd yr Athro Nazar Amso o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a
arweiniodd y treial yng Nghaerdydd: "Bu'n fraint i Gaerdydd fod yn rhan
o'r treial mwyaf erioed ar gyfer canser yr ofari. Mae canlyniadau UKCTOCS yn
awgrymu y gall sgrinio arwain at ganfod canser yn gynnar, ac arbed bywydau. Yn
amlwg, byddai ymchwil dilynol yn y tymor hwy yn cynyddu ein dealltwriaeth o'r
manteision, ac yn rhoi rhagor o obaith i filiynau o fenywod sydd mewn perygl o
gael canser yr ofari. Mawr yw ein dyled i'r menywod a wirfoddolodd i gymryd
rhan, ac i waith caled pawb ym mhob un o'r 13 canolfan."
Dywedodd yr Athro Usha Menon, Iechyd Menywod yng Ngholeg Prifysgol Llundain,
cyd-arweinydd y treial, sy'n cael arian ymchwil gan Abcodia Ltd.: "Mae
UKCTOCS wedi bod yn ymdrech ymchwil aruthrol dros 14 mlynedd, gan gynnwys dros
200,000 o fenywod a 700,000 o brofion sgrinio blynyddol. O'r diwedd, mae gennym
ddata sy'n awgrymu y gall sgrinio atal marwolaethau yn sgîl canser yr ofari.
Mae hyn yn newyddion arbennig, sy'n rhoi hwb newydd i ymdrechion yn y maes
hwn."
Dywedodd Dr Fiona Reddington, pennaeth ymchwil i'r boblogaeth, Ymchwil Canser y DU: "Mae'r treial hwn wedi bod yn hynod ddefnyddiol wrth wella ein dealltwriaeth o ganser yr ofari. Mae ei ganfod yn gynnar yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod cleifion yn gallu manteisio ar y driniaeth orau, ac y gall mwy o fenywod oroesi'r clefyd. Nid yw'n sicr a all sgrinio leihau marwolaethau canser yr ofari yn gyffredinol ai peidio. Er bod hyn yn gam pwysig ym maes ymchwil i ganser yr ofari, ni fyddem yn argymell rhaglen sgrinio genedlaethol ar hyn o bryd."