Myfyrwyr yn rhoi cynnig ar 'Game of Codes'
17 Rhagfyr 2015
Darpar ysgrifenwyr côd cyfrifiadurol yn ymgynnull ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer rownd derfynol cystadleuaeth datblygu meddalwedd
Mae plant ysgol ledled Cymru wedi dod i Brifysgol Caerdydd i ddangos eu doniau wrth ysgrifennu côd cyfrifiadurol mewn cystadleuaeth genedlaethol a gynlluniwyd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Wyddonwyr Cyfrifiadurol a pheirianwyr meddalwedd.
Roedd rownd derfynol y gystadleuaeth 'Game of Codes', a gynhaliwyd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol, yn profi gallu myfyrwyr i ddylunio a chreu rhaglenni meddalwedd creadigol ac arloesol sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol.
Gofynnwyd i'r myfyrwyr greu rhaglen gyfrifiadurol yn seiliedig ar thema 'chwaraeon', a gallai'r ffurf amrywio o gemau a gwefannau, i apiau, cwis ac animeiddiadau.
Cafodd y myfyrwyr eu hannog i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i greu'r feddalwedd, a beirniadwyd nhw ar ba mor wreiddiol oedd y greadigaeth, a pha mor effeithiol yr oedd wedi'i ddylunio gyda chynulleidfa darged mewn golwg.
Bu un ar bymtheg o dimau o ysgolion ledled Cymru'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth, a oedd yn cael ei beirniadu gan academyddion o'r Brifysgol, yn ogystal â beirniaid gwestai arbennig.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Technocamps – rhaglen allgymorth sy'n cynnwys llu o brifysgolion yng Nghymru sy'n darparu gweithdai i ysgolion ar gyfrifiadureg a phynciau llythrennedd digidol, gan gynnwys datblygu gemau, rhaglennu, datblygu apiau a roboteg.
Nod y digwyddiad yw helpu'r myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gweithio mewn tîm, gan roi gwybod iddynt am yr amrywiaeth o bosibiliadau y gall gyrfa mewn cyfrifiadureg, a STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn fwy cyffredinol, eu cynnig.
Wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu'n gyflym, mae'r rhagolygon swyddi mewn cyfrifiadureg yn datblygu yn yr un modd. Mae galw mawr am ddatblygwyr meddalwedd cymwys yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae ymchwil a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod angen 3,100 o weithwyr TG proffesiynol newydd bob blwyddyn yng Nghymru, i ateb y galw presennol gan ddiwydiant.
I ychwanegu at yr ystod o gyrsiau gradd y mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn eu cynnig, lansiwyd yr Academi Meddalwedd Genedlaethol gan y Brifysgol yn ddiweddar, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Y nod yw ateb y galw hwn a rhoi'r sgiliau angenrheidiol i raddedigion, yn ogystal â'r profiad sy'n eu gwneud yn 'barod am waith' pan fyddant yn mynd i'r byd gwaith.
Dywedodd Catherine Teehan, Swyddog Lleoliadau'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Rydym yn falch iawn o groesawu'r ysgrifenwyr côd hynod dalentog hyn i'r Brifysgol heddiw, i brofi eu sgiliau peirianneg meddalwedd fel rhan o'r gystadleuaeth genedlaethol hon. Edrychwn ymlaen at weld creadigaethau meddalwedd arloesol y myfyrwyr, a gobeithiwn y byddant yn cael profiad gwerth chweil yn sgîl y gweithgareddau yr ydym wedi eu trefnu ar eu cyfer.
"Mae peirianneg meddalwedd wir yn faes gwaith cyffrous, sy'n prysur dyfu. Mae'n darparu cyfleoedd di-rif i weithio ar amrywiaeth o brosiectau mewn amrywiaeth o sectorau. Drwy gynnal digwyddiadau fel cystadleuaeth 'Game of Codes', rydym yn gobeithio gallu ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ystyried astudio a gweithio yn y maes hwn."