Elfennau esblygiadol ar y Ddaear wedi cyrraedd yn llawer hwyrach nag y tybiwyd yn flaenorol, meddai gwyddonwyr
11 Mawrth 2020
Mae tîm rhyngwladol o ddaearegwyr, a arweinir gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Cologne gan gynnwys academydd o Brifysgol Caerdydd, yn dweud nad oedd cyfran fawr o elfennau carbon a nitrogen, yn ogystal â'r cyfansoddyn dŵr, wedi cyrraedd y Ddaear tan yn hwyr iawn yn y broses o ffurfio'r blaned.
Mae hyn yn groes i'r dystiolaeth flaenorol a oedd yn awgrymu bod yr elfennau eisoes yn bresennol pan ddechreuodd y Ddaear gael ei ffurfio.
Cyhoeddwyd y canfyddiadau yng nghyfnodolyn Nature heddiw.
Yn gyffredinol, caiff ei dderbyn bod elfennau anweddol megis carbon a nitrogen, yn ogystal â dŵr, wedi cyrraedd y Ddaear ar asteroidau, sef 'blociau adeiladu planedau' a ffurfiwyd yn wreiddiol yng nghysawd allanol yr haul.
Mae'n hysbys bod asteroidau'n llochesu iâ, ac mae modelau wedi awgrymu y gallai eu cyfansoddiadau ddal digon i fod wedi dosbarthu swm o ddŵr sy'n gyfwerth â chefnforoedd y Ddaear.
Fodd bynnag, mae trafodaeth barhaus ymhlith arbenigwyr o ran pryd yn union ddaeth yr asteroidau i'r Ddaear.
"Rydym bellach wedi gallu nodi'r cyfnod o amser yn llawer manylach," dywedodd awdur cyntaf yr astudiaeth, sef Dr Mario Fischer-Gödde o Sefydliad Daeareg a Mwnyddiaeth ym Mhrifysgol Cologne.
Er mwyn cyfyngu ar ddosbarthiad yr elfennau a elwir yn 'anweddol' i'r Ddaear, mesurodd yr ymchwilwyr doreithrwydd isotopau metel grŵp platinwm prin iawn o'r enw rwtheniwm yn y creicaen hynaf a gedwir ar y planedau.
Mae'r creigiau hyn wedi'u lleoli yn yr Ynys Las ac yn dyddio'n ôl dros 3.8 biliwn o flynyddoedd at gyfnod yr 'Archean Eon'.
Yn debyg i olion bysedd genetig, gellid defnyddio isotopau rwtheniwm fel dangosydd ar gyfer blociau adeiladu amrywiol y Ddaear.
Nid oedd toreithrwydd yr isotopau a fesurwyd yn yr Ynys Las yn nodi unrhyw gyfraniad sylweddol gan asteroidau a oedd yn cynnwys elfennau anweddol, gan awgrymu bod yr elfennau anweddol wedi cyrraedd yn gymharol hwyr.
"Mae ein canlyniadau'n annisgwyl gan fod y gymuned wyddonol wedi cymryd yn ganiataol yn flaenorol fod blociau adeiladu planedol sy'n cynnwys dŵr wedi cyrraedd y Ddaear yn ystod camau cynharaf ei ffurfiant", dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Wolfgang Maier o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd.