Israddedigion dawnus yn cystadlu yn Her Prifysgolion TRADA 2020 ym Mhrifysgol Caerdydd
10 Mawrth 2020
Cafodd Her Prifysgolion TRADA 2020 ei chynnal gan yr Ysgol Beirianneg ac fe'i cynhaliwyd rhwng 17 a 19 Chwefror.
Ffurfiodd tua 58 o fyfyrwyr o brifysgolion ar draws y DU dimau a daethant ynghyd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio, costio a pheiriannu'r prosiect tai cymunedol gorau o ran adeiladu coed, carbon isel, ynni a dŵr.
Roedd gan y myfyrwyr lai na 48 awr i gwblhau eu prosiectau. Roedd pob tîm yn cynnwys peirianwyr myfyrwyr, penseiri, technolegwyr pensaernïol, syrfewyr meintiau a phenseiri tirwedd, ac yn cael cymorth ymarferol gan weithwyr proffesiynol dylunio arloesol ac aelodau o'r diwydiant, gan gynnwys beirniad o Mikhail Riches, Cullinan Studio, Stride Treglown, Ramboll, BuroHappold, Entuitive, Gardiner & Theobald and PLAN:design.
Rhoddwyd y brîff iddynt gan Gymdeithas Tai Cymru a'r Gorllewin ar gyfer safle gwledig mawr yn Adams Drive, Arberth, a osododd gyfyngiadau go iawn i'r myfyrwyr fynd i'r afael â nhw a dylunio yn eu herbyn. Roedd y brîff, a oedd yn cynnwys cyfuniad o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol, perchentyaeth cost isel a'r farchnad agored, yn gofyn am adeiladau carbon isel neu ddi-garbon gyda dull gweithredu ffabrig-cyntaf, creu lle sensitif a chanolbwynt y gellid creu cymuned o'i gwmpas.
Enillodd chwe myfyriwr talentog y wobr gyntaf am ddyluniad eu cynllun tai sy'n seiliedig ar goed yn Her Prifysgolion TRADA 2020. Kyle Crossley o Brifysgol Leeds Beckett, Ryan Jessop o Brifysgol Hertfordshire, Aslinn Aijian Zha o'r Ysgol Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd, Kai Yusaf Chelliah o Brifysgol Bryste, Kat Cookes o Brifysgol Swydd Gaerloyw ac Aaron Shaw o Brifysgol Sheffield Hallam a wnaeth oresgyn naw tîm cystadleuol i ennill gwobr ariannol a gadael yn enillwyr.
Dywedodd y Beirniad Rob Wheaton o Stride Treglown y caiff cystadleuwyr eu profi drwy ddehongli 'briff technegol heriol iawn mewn cyn lleied o amser'. Pwysleisiodd anawsterau dod o hyd i ffyrdd arloesol o ddefnyddio pren a chynnwys egwyddorion Passivhaus, a hynny oll tra'n bodloni gofynion diffiniol y cleient ac yn gweithio i gyfyngiadau'r safle.
Cyfaddefodd Ryan Jessop, un o ddau bensaer o fewn y tîm buddugol: 'Dyma'r gystadleuaeth ddylunio gyntaf dw i wedi ei gwneud, felly mae dod yn gyntaf yn syfrdanol. Pe na bai gennym y syrfëwr meintiau a'r peirianwyr yn rhoi eu cyfiawnhad, mae'n debyg y byddem wedi gwneud rhywbeth braidd yn fwy gwallgof – ond [yn seiliedig ar eu mewnbwn] fe wnaethom gynllunio rhywbeth realistig, a dyna pam y gwnaethom greu bawdbrint adeilad yn gyflym iawn y gallem ei roi i'r peirianwyr. Ar ôl iddyn nhw wneud iddo weithio, fe wnaethon ni weithio ar gynlluniau'r ystafelloedd.'
Dywedodd Dr Aled Davies o'r Ysgol Peirianneg, a gynhaliai'r digwyddiad: "Roedd yn wych gweld cymaint o fyfyrwyr israddedig talentog o wahanol ddisgyblaethau yn gweithio gyda'i gilydd ac yn defnyddio dull amlddisgyblaethol i ddatrys her dechnegol mewn bywyd go iawn. Roeddem yn falch o allu cynnal y digwyddiad yma ym Mhrifysgol Caerdydd."
Dywedodd Tabitha Binding, Rheolwr Rhaglen Ymgysylltu'r Brifysgol yn TRADA: 'Mae hi bob amser yn anrhydedd i drefnu Her Flynyddol Prifysgolion TRADA. Bob blwyddyn, rwy'n falch iawn o weld drosof fy hun ymroddiad ac angerdd pawb sy'n ymwneud â'r gwaith. Roedd y beirniaid yn rhyfeddu at y ffordd yr oedd unigolion o wahanol brifysgolion a disgyblaethau'n dod ynghyd i ffurfio timau dylunio cydlynus mewn cyn lleied o amser. Mae’n rhaid llongyfarch yr enillwyr a goreuon y gweddill - mae eu gwaith caled a'u gweledigaeth wedi arwain at ddyluniadau ystyriol ac ecogyfeillgar sy'n seiliedig ar goed, y fath o ddyluniadau sydd eu hangen arnom ar hyn o bryd. Diolch i'n noddwyr, cefnogwyr, a gwesteiwyr Caerdydd am helpu i wneud Her Prifysgol TRADA 2020 yn llwyddiant ysgubol.'