Awdur o Brifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi llyfr testun newydd ar gemeg organig
13 Mawrth 2020
Mae Dr Mark Elliott o’r Ysgol Cemeg wedi cyhoeddi llyfr testun newydd, ‘How to Succeed in Organic Chemistry’ ar y cyd â Gwasg Prifysgol Rhydychen.
Yn bennaf, mae’r llyfr testun anffurfiol a hygyrch yn targedu myfyrwyr israddedig sydd yn eu dwy flwyddyn gyntaf o astudio, i’w helpu i adeiladu fframwaith cryf ym maes cemeg organig.
Mae llawer o bobl yn credu mai pwnc anodd ei ddysgu yw cemeg organig, sy’n gofyn i’w myfyrwyr gofio rhestrau hir o adweithiau. Mae gan lyfr testun newydd Dr Elliott agwedd wahanol. Gyda phenodau byr sy’n hawdd eu dilyn, mae’r testun yn canolbwyntio ar ddefnyddio damcaniaethau gwaelodol, gan gynnwys bondio, mecanweithiau, stereocemeg ac ati, ar gyfer detholiad bach o fathau o adwaith. Bydd hyn yn galluogi cemegwyr organig i brofi a datblygu eu sgiliau allweddol, heb orfod cofio llawer o adweithiau.
Mae gwallau mwyaf cyffredin myfyrwyr yn cael eu hesbonio mewn penodau unigol, sy’n amlygu meini tramgwydd ac yn helpu’r darllenwyr i’w hosgoi. Mae dros 60 o fideos yn cyd-fynd â’r llyfr, ac yn cynnwys yr awdur yn trafod atebion ac agweddau ynghylch datrys problemau. Ar ben hynny, bydd tudalen Facebook ar gyfer cymuned gydgysylltiedig lle gall myfyrwyr cemeg drafod eu hastudiaethau.
Dywedodd Dr Jennifer Slaughter, Prifysgol Manceinion, a adolygodd gopi cyn-gyhoeddi o’r llyfr: “Mae’r testun yn cynrychioli ffordd newydd o addysgu cemeg organig a chynhyrchu cemegwyr annibynnol sy’n meddwl yn feirniadol.”