Gallai Cymru ddod yn “ganolfan ragoriaeth” ar gyfer ymchwil i drychiadau
6 Mawrth 2020
Ar hyn o bryd, prin iawn yw’r ymchwil i drychiadau er bod 5,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn yn mynd trwy’r profiad sy’n newid bywyd o golli rhan o’r goes. A gyda’r disgwyliad y bydd cyfraddau diabetes yn cynyddu – un o’r prif bethau sy’n achosi trychiadau – mae llawfeddygon yn disgwyl y bydd y nifer hon yn cynyddu.
Wrth i gleifion ddisgrifio’u profiad ar ôl colli rhan o’u coes, maen nhw’n aml yn dweud ei fod wedi bod yn amser difethol; maen nhw’n teimlo’u bod nhw wedi colli ffordd o fyw, ac maen nhw’n gallu bod mewn poen mawr. Mae’n hanfodol rheoli’r boen yma yn y diwrnodau cyntaf o’u hadferiad, ond nid yw’n glir sut orau i’w reoli.
Bu ymchwil o’r Ganolfan Ymchwil Treialon, o’r enw cathetr anesthetig lleol periniwral ar ôl torri rhan helaeth o’r goes ymaith (PLACEMENT), yn edrych ar ffordd newydd o reoli poen ar ôl llawdriniaeth drychu.
Meddai’r llawfeddyg fasgwlaidd ymgynghorol, David Bosanquet, sef yr ymchwilydd arweiniol ar astudiaeth PLACEMENT: “Mae cael rhan o’ch coes wedi’i dorri i ffwrdd yn achosi llawer o boen ynddo’i hun, ond mae’r cleifion hyn hefyd yn cael rhith-boen, sef teimlo poen yn y droed sydd wedi mynd.”
Ar hyn o bryd, defnyddir morffin i reoli poen ar ôl trychiad. Er ei fod yn boenladdwr cryf, mae yna risg o sgil-effeithiau difrifol fel dryswch a dibyniaeth ar forffin.
“Yr hyn roedd yr ymchwil yn edrych arno oedd, wrth wneud y trychiad ei hun, a allen ni fewnosod tiwb tenau [o’r enw cathetr] wrth ymyl y nerf sydd newydd ei dorri, dod ag ef allan mewn man i ffwrdd o’r graith rydyn ni’n ei chreu a rhoi anesthetig ynddo am bum diwrnod. Doedd neb wedi ymchwilio’n iawn i hyn o’r blaen,” esboniodd David.
Recriwtiodd tîm yr astudiaeth 50 o gleifion a oedd yn colli rhan o’u coes, a detholwyd hanner y cleifion ar hap i dderbyn y dull newydd o leihau poen, tra derbyniodd yr hanner arall y driniaeth safonol bresennol.
“Roedd hi’n edrych fel pe bai’r cathetr yn gweithio, ond mae angen inni wneud astudiaeth fwy i edrych ar hynny’n fanylach. Fe welson ni fod cleifion yn hapus ac yn awyddus i gymryd rhan; gwnaethon ni gyrraedd ein targed recriwtio cleifion cyn pryd.”
Ariannwyd yr astudiaeth ddichonoldeb trwy grant Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a oedd, yn ôl David, yn “amhrisiadwy” i’w ymchwil.
Y cam nesaf fydd cynnal astudiaeth ar raddfa fwy ynglŷn â defnyddio cathetrau i leihau’r boen ar ôl llawdriniaeth drychu. Mae David hefyd yn bwriadu gwneud ymchwil i edrych ar y broses benderfynu ynglŷn â thrychiadau a gweld pa mor dda y mae llawfeddygon yn amcangyfrif deilliannau tymor hir llawdriniaeth drychu.
Meddai David, i gau: “Rydyn ni’n ceisio peidio â gorfod torri coes i ffwrdd. Rydyn ni’n ceisio gwneud llawdriniaethau eraill i achub coesau ac rydyn ni, fel llawfeddygon, yn tueddu i ystyried trychiad yn fethiant, felly dwi’n meddwl mai dyna pam dydy ymchwil i drychiadau heb ddenu rhyw lawer o sylw.
“Dwi’n meddwl bod pobl sydd wedi colli rhan o’u coes yn boblogaeth nad oes wedi bod digon o ymchwilio iddi...dwi’n wir obeithio y bydd Cymru’n gallu dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil i drychiadau.”