Ymladd Tân fel merch
6 Mawrth 2020
Cyn-fyfyriwr yn herio stereoteipiau rhywedd mewn llyfr newydd i blant
Mae cyn-fyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg wedi ysgrifennu llyfr i blant er mwyn lledaenu neges pŵer merched.
Aeth y cyn-fyfyriwr Emma Greenhalgh ati i'w ysgrifennu er mwyn ysbrydoli merched i gredu eu bod nhw hefyd yn gallu bod yn arwyr.
Ac ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni (Mawrth 8) mae'r llyfr plant Firefighter Ruby yn gobeithio rhannu'r neges yn eang.
Roedd y cyn newyddiadurwr sydd bellach yn gweithio i'r Gwasanaeth Tân yn awyddus i gywiro camganfyddiadau am ymladd tanau. Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae 6.4% o ymladdwyr tân Lloegr yn fenywod.
Dywedodd Emma, sy'n Rheolwr Cyfathrebu i Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Swydd Efrog:
"Pan fydd galwad frys 999 yn cyrraedd, mae'n rhyfeddol gweld yr ymladdwyr tân yn neidio at y gwaith.
Iddyn nhw, y peth pwysig yw bod yn un tîm, sy'n canolbwyntio'n llwyr ar achub bywydau a diogelu pobl ac eiddo.
"Mae pawb yn y tîm wedi'u hyfforddi, yn uchel eu sgiliau ac yn werthfawr. Er gwaethaf rhai mythau i'r gwrthwyneb, mae'r profion i fynd i'r Gwasanaeth Tân yr un peth i bawb. Mewn gwirionedd mae'r Gwasanaeth Tân yn lle croesawgar i ddynion a menywod."
"Roeddwn i'n awyddus i ysgrifennu'r llyfr hwn i anfon neges wirioneddol gadarnhaol ar lefel sylfaenol, i ddangos i ferched bach eu bod nhw'n gallu bod yn arwyr hefyd!
Nod y llyfr yw ennyn diddordeb y plant gyda stori antur hwyliog, sydd hefyd yn eu dysgu am y gwahanol fathau o achub mae'r Gwasanaeth Tân yn ei gyflawni, a hefyd agor y drws i bosibiliadau yn y dyfodol."
Mae'r achub sy'n digwydd yn y stori wedi'i gynllunio i ddal sylw plant rhwng pedair ac wyth oed gan gyd-fynd â'r neges 'gallaf wneud' sylfaenol. Aiff y cymeriadau ymlaen i ailddiffinio cysyniadau ystrydebol o ddewrder a chryfder cyn hyrwyddo caredigrwydd, gwaith tîm a hunan-gred.
Ychwanegodd Emma: "Rwyf i wir yn gobeithio y bydd Firefighter Ruby yn dangos i ferched bod unrhyw beth yn bosib.
Mae gyrfa ym maes ymladd tân, a'r cyfle i wneud gwahaniaeth a helpu pobl, yn aml yn cael ei ddisgrifio i fi fel 'y swydd orau yn y byd'. Gobeithio y bydd y llyfr hwn yn golygu y bydd merched a menywod yn deall bod lle yn y teulu Ymladd Tân iddyn nhw.
Emma Greenhalgh yw awdur y gyfrol a Sarah-Leigh Wills sydd wedi creu'r darluniau i Firefighter Ruby:Because Girls Can Be Heroes Too! ac mae ar gael nawr. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch #BecauseGirlsCanBeHeroesToo.