Gwyddonwyr yn dod o hyd i amnewidion diogel y gellid eu hehangu i gymryd lle plaladdwyr
5 Mawrth 2020
Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn darganfod modd cost effeithiol y gellid ei ehangu i gynhyrchu analogau terpenau i'w defnyddio fel dewis amgen gwyrdd i blaladdwyr.
Sylweddau cemegol sy'n digwydd yn naturiol yw terpenau a gynhyrchir gan blanhigion i wrthsefyll plâu fel amddiffyniad biolegol. Maen nhw'n gyfrifol am sawr trwm a blasau cryf y planhigyn. Drwy harneisio'r 'arogleuon' (cyfansoddion organig anweddol) hyn, mae gwrthyrwyr ac atynwyr newydd ecogyfeillgar yn cael eu datblygu ar gyfer rheoli pryfed.
Fel dewisiadau amgen i blaladdwyr traddodiadol, mae'r moleciwlau hyn yn naturiol yn gyrru pryfed llysysol i ffwrdd o'r cnydau, yn denu ysglyfaethwyr yn cynnwys cacwn parasitig, ac yn cynnal cydbwysedd iachus o beillwyr. Mae gan derpenau hefyd gymwysiadau fferyllol hanfodol, yn cynnwys datblygu cyffuriau gwrth-malaria sy'n achub bywydau.
Mae cynhyrchu moleciwlau terpen ar y raddfa sydd ei hangen at ddefnydd diwydiannol, er enghraifft diogelu cnydau, yn ddrud, yn aneffeithiol a gan amlaf yn anymarferol.
Mewn astudiaeth newydd, mae gwyddonwyr o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd wedi dod o hyd i ffordd i gynhyrchu analogau terpen gyda deunyddiau rhad sy'n addas ar gyfer cynhyrchu ar raddfa fawr.
Mae'r tîm, dan arweiniad yr Athro Rudolf Alleman, wedi cynhyrchu math o foleciwlau terpen yn cynnwys gwrthyrrwr pryfed gwyn (7-epizingberene) a gwrthyrrwr affidau a malwod (germacrene-D). Maen nhw hefyd wedi creu atynnwr affidau (14,15 dimethylgermacrene-D), sy'n cael ei ddefnyddio i ddenu plâu i ddyfeisiau maglu neu at blanhigion aberthol lle gellir eu tynnu'n rhwydd.
“Mae symud tuag at ddewisiadau amgen cynaliadwy amgylcheddol yn hanfodol os ydym am liniaru yn erbyn y difrod a achosir gan blaladdwyr cyfredol, a pharhau i gynhyrchu'r meintiau o gnydau sydd eu hangen i gefnogi poblogaeth gynyddol y byd” meddai’r Athro Rudolf Allemann.
Rydyn ni'n gobeithio creu amrywiaeth o gyfansoddion gwerthfawr ar gyfer cynhyrchion y tu hwnt i agrocemegion ar gyfer rheoli plâu, gan gynnwys fferyllol. Mewn egwyddor, gallwn geisio datblygu analogau o unrhyw gynnyrch terpene gan ddefnyddio’r dull syml a chost-effeithiol hwn.”
Mae Cydymaith Ymchwil Postdoctoral, Dr Luke Johnson: “Mae rhwyddineb y dull bellach yn sicrhau bod moleciwlau terpene ar gael yn rhwydd yn meintiau sy'n ddigonol i ymchwilwyr brofi eu gweithgareddau a dod o hyd i feddyginiaethau neu agrocemegion yfory. Disgwyliwn y bydd y dull hwn yn dod yn arfer safonol o fewn y byd academaidd a biotechnoleg.”
Bydd gwaith diweddaraf y tîm yn sgrinio analogau terpene a gynhyrchir yn ensymatig ac yn edrych am ymatebion mewn llyslau.
Cefnogwyd yr ymchwil drwy grantiau gan Gyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) y DU.