Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy creadigol yn agor llygaid y cyhoedd i ddiabetes

3 Mawrth 2020

Members of the Diabetes Research Group with some of the attendees at the workshop.
Members of the Diabetes Research Group with some of the attendees at the workshop.

Cynhaliodd aelodau o Grŵp Ymchwil Diabetes weithdy creadigol hynod lwyddiannus, ‘Ffenest i’r Pancreas’ ddydd Sadwrn 22 Chwefror 2020.

Yr Athro Susan Wong arweiniodd y gweithdy gyda help gan Dr Joanne Boldison, Dr Emma Robinson, Dr James Pearson, Dr Terri Thayer a Mrs Joanne Davies, ynghyd â’n hartist preswyl, Bridget O’Brien.

Croesawyd bron 30 o bobl i Gampws Parc y Mynydd Bychan ac yn eu plith unigolion â diabetes math 1 a’u teuluoedd, ynghyd â phobl nad oedd â chysylltiad â diabetes math 1.

Drwy ddefnyddio deunyddiau creadigol, rhoddodd y gweithdy y cyfle i ystyried cwestiynau oedd yn cynnwys ‘Ble mae’r pancreas?’, ‘Beth mae’n ei wneud?’ a ‘Beth yw diabetes math 1?’.

Roedd y rhai a gymerodd ran hefyd yn gallu defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau creadigol i gyfrannu at waith celf ynghylch ‘Beth mae diabetes math 1 yn ei olygu i fi?’.

Bydd y cyfraniadau celfyddydol hyn yn cael eu casglu ynghyd yn rhan o arddangosfa gelfyddydol yn Ysbyty Llandochau’n hwyrach eleni.

Un o nodau’r gweithdy oedd gofyn am sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer ein cyfraniad rhyngweithio at raglen ‘Gwyddoniaeth ym maes Iechyd’ yn yr Ysgol Meddygaeth. Bydd hyd at 800 o ddisgyblion ysgol blwyddyn 12 yn cymryd rhan yn y rhaglen hon ym mis Mawrth 2020.

Cafodd y digwyddiad ei gefnogi gan Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd, a grant ymgysylltu gan Wellcome ISSF.

Yn arbennig, hoffem ni ddiolch i Miranda Burdett ac Abi Clarke o JDRF am eu cefnogaeth.

Rhannu’r stori hon