Dyfarnu £ 4.1m i GW4 i adeiladu uwch-gyfrifiadur ARM mwyaf Ewrop
2 Mawrth 2020
Y Swyddfa Dywydd yng Nghaerwysg fydd cartref y cyfleuster newydd a phwerus gwerth £6.5m, a chaiff ei ddefnyddio gan brifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg. Bydd yn dyblu maint GW4 Isambard i gynnwys 21,504 craidd perfformiad uchel a 336 nod.
Bydd Isambard 2 hefyd yn cynnwys y technolegau newydd diweddaraf gan HPE a phartner newydd Fujitsu, gan gynnwys CPUs ARM y genhedlaeth nesaf yn un o beiriannau A64fx cyntaf y byd gan Fujitsu.
Gyda llawer mwy o effeithlonrwydd, cynhwysedd ac wyth gwaith yn fwy o led band cof, bydd prosesydd A64fx Fujitsu yn seiliedig ar ARM yn gwthio ffiniau ymchwil wyddonol trwy gefnogi datblygiad algorithmau pwerus newydd, braenaru'r ffordd ar gyfer modelu hinsawdd soffistigedig ac ymchwil meddygol.
Mae Isambard eisoes wedi cael ei ddefnyddio i ymchwilio i gyffuriau posibl i drin osteoporosis ac efelychu clefyd Parkinson ar y lefel foleciwlaidd. Bydd Isambard 2 yn galluogi ymchwilwyr i ehangu hyn ymhellach gyda'r posibilrwydd o ddatblygiadau gwyddonol mawr.
Bydd y Swyddfa Dywydd yn lletya Isambard 2 fel y mae'n ei wneud ar hyn o bryd gyda system Isambard 1. Bydd Isambard 2 yn parhau i gefnogi ei ymdrechion i ddatblygu systemau yn y dyfodol ar gyfer rhagweld y tywydd a rhagfynegi'r hinsawdd.
Gyda dros 350 o ddefnyddwyr o bob rhan o'r byd, mae Isambard eisoes yn un o'r systemau Haen 2 a ddefnyddir fwyaf. Gall uwch-gyfrifiaduron daclo problemau ar raddfa fawr na fyddai'n bosibl ar beiriannau eraill. Gyda mynediad i Isambard 2, gall ymchwilwyr o bob rhan o GW4 a thu hwnt ddewis y system galedwedd orau ar gyfer eu problem wyddonol benodol, gan arbed amser ac arian.
Dywedodd yr Athro Kim Graham, Cadeirydd Bwrdd GW4 a Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch o fod yn rhan o'r prosiect unigryw hwn a chydweithio'n llwyddiannus gyda HPE a'i dechnolegau Cray, y Swyddfa Dywydd a'n partneriaid newydd. Mae Isambard yn enghraifft o arbenigedd ein rhanbarth ym maes peirianneg uwch ac arloesi digidol. Mae'n peri cyffro inni ehangu Isambard i barhau i arwain yn rhyngwladol o ran arbenigedd ARM a galluogi ymchwilwyr i ganfod rhagor o ddarganfyddiadau gwyddonol."
Meddai'r Athro Simon McIntosh-Smith, prif ymchwilydd prosiect Isambard ac athro cyfrifiadura perfformiad uchel ym Mhrifysgol Bryste: "Rydym yn edrych ymlaen at arloesi a gwthio'r ffiniau ymhellach gydag Isambard 2 a gweld y perfformiad aruthrol a ddaw ar uwch-gyfrifiadur ARM Cray A64FX, sy'n defnyddio proseswyr newydd Fujitsu. Mae'n hanfodol bod gwyddonwyr y DU yn gallu defnyddio'r technolegau ARM diweddaraf, gan eu bod yn un o'r llwybrau mwyaf tebygol i gyfrifiadura Exascale ac yn gallu helpu ymchwilwyr i ddatrys heriau byd-eang."
Dywedodd Dominik Ulmer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Technoleg, HPC ac AI, HPE: "Rydym wedi ymrwymo i gyflenwi technolegau allweddol Exascale Era o'r Isambard 1 gwreiddiol i'w genhedlaeth newydd gyda system Isambard 2. Drwy gydweithio â GW4 Alliance ac ymestyn ein hatebion HPC ac AI, rydym yn datblygu ymhellach saernïaeth uwch--gyfrifiadura seiliedig ar ARM ar gyfer perfformiad cymhwysiad parhaus uchel ac yn cynyddu ecosystem gyffredinol ARM. "
Dywedodd Dr Paul Selwood, prif Gymrawd mewn Uwch-gyfrifiadureg yn y Swyddfa Dywydd: "Mae Isambard wedi bod o werth mawr i'r Swyddfa Dywydd, gan ddarparu llwyfan ardderchog i ddatblygu ein modelau tywydd a hinsawdd cenhedlaeth nesaf. Bydd Isambard 2, drwy ddarparu mynediad i'r dechnoleg ddiweddaraf fel y prosesydd A64FX, yn ein galluogi i gadw ein datblygiadau cod sy'n berthnasol i'r systemau caledwedd cyffrous a newydd hyn."
Meddai Cadeirydd Gweithredol EPSRC yr Athro Dame Lynn Gladden: "Mae cyfrifiannu'n dod yn arf gwyddonol bwysicach fyth, boed ar gyfer dadansoddi setiau data mawr a gynhyrchir o waith arbrofol neu sefyllfaoedd modelu na ellir eu hailadrodd mewn arbrofion. Bydd y gwasanaethau Cyfrifiadura Perfformiad Uchel a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi mynediad i ymchwilwyr at yr arfau sydd eu hangen arnynt i arloesi mewn amrywiaeth eang o feysydd sy'n effeithio ar sut rydym yn byw ein bywydau."
Mae Isambard 2 hefyd yn cynnig y potensial i ddefnyddwyr redeg llwythi gwaith AI uwch newydd, tra hefyd yn darparu mynediad parhaus i system ARM o safon fyd-eang a'r System Gymhariaeth Aml-bensaernïaeth (MACS) fwyaf nodedig i ateb y galw yn y dyfodol.