Grant o filiynau o bunnoedd i ddatgloi potensial 5G yng Nghymru wledig
27 Chwefror 2020
Nod prosiect cydweithredol gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yw datgloi potensial technoleg 5G yng Nghymru wledig.
Bydd Cymunedau Cyd-gysylltiedig yn yr Economi Wledig (CoCoRE) yn dod ag arbenigwyr ar draws y Brifysgol at ei gilydd ynghyd â Chynghorau Sir Fynwy a Blaenau Gwent, Cisco, Utterberry, Bargen Dinas Caerdydd, Innovation Point a Phrifysgol Bryste.
Bydd y prosiect yn asesu sut gall y dechnoleg ddiweddaraf wella amrywiol agweddau ar fywyd, o fynd i'r afael ag ynysu gwledig, i wella diogelwch ffermydd a hybu'r diwydiant twristiaeth.
Ynghyd â grant o £5m gan yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, cafwyd arian cyfatebol gan amrywiol bartneriaid y prosiect yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Bydd datrys problemau'n ymwneud â thrafnidiaeth, gweithio hyblyg, mewnfuddsoddi ac ynysu hefyd yn helpu i wella safle cystadleuol a chymdeithasol y rhanbarth yn ôl y tîm.
Mae gan 5G gyflymder hyd at ddeg gwaith yn uwch na 4G a bydd yn cynyddu capasiti symudol ar draws Cymru gan olygu y bydd mwy o bobl yn gallu mynd ar-lein a chanfod a lawrlwytho'r cynnwys maen nhw'n ei ddymuno heb arafu.
Ond mae mwy i 5G na chyswllt rhyngrwyd cyflymach. Mae'n defnyddio technoleg sydd yn llawer mwy datblygedig na'n rhwydweithiau symudol presennol, ac felly gallai drawsnewid y ffordd rydym ni'n rhyngweithio gyda gwasanaethau hanfodol - o ynni a dŵr i drafnidiaeth a gofal iechyd.
Pan fydd 5G ar gael, bydd hefyd yn ei gwneud yn bosibl i wireddu mathau eraill o dechnolegau allweddol - fel cyfrifiadura ymyl a dadansoddeg. Mae seibr ddiogelwch hefyd yn parhau'n her allweddol gyda'r defnydd o 5G, fydd hefyd yn cael ei archwilio yn y prosiect hwn.
Bydd technoleg 5G hefyd yn ysgogi mabwysiadu meysydd cymhwyso eraill fel ceir di-yrrwr, gofal iechyd o bell a'r dyfeisiau 'clyfar' rydym ni'n eu defnyddio’n gynyddol yn ein cartrefi ac yn y gwaith.
Mae'r prosiect yn rhan o fuddsoddiad o £65 miliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer treialon 5G ar draws y wlad, i helpu i ledaenu manteision y dechnoleg a gwella bywydau pobl mewn ardaloedd gwledig.
Bydd y prosiect, y gobeithir y bydd yn rhan o raglen waith fwy o lawer ar 5G yng Nghymru, yn parhau tan fis Mawrth 2022 a bydd yn cynnwys academyddion o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Ysgol Mathemateg a Sefydliad Ymchwil Arloesi Data Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd yr Athro Peter Madden OBE o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: "Mae gan dechnoleg 5G y potensial i wella bywydau pobl mewn ardaloedd gwledig. Rydym ni'n hynod o falch fod Prifysgol Caerdydd wedi gallu helpu i sicrhau'r cyllid hwn er mwyn i ni allu archwilio'r manteision a allai ddod yn sgil y dechnoleg hon i bobl sy'n byw ar draws de ddwyrain Cymru."
Dywedodd yr Athro Omer Rana o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Bydd y cyllid hwn a'r gwaith cydweithredol fydd yn ei alluogi yn helpu i gadw Prifysgol Caerdydd a Chymru ar y blaen gyda'r dechnoleg gyffrous newydd hon, lle byddwn yn datblygu datrysiadau arloesol a newydd i'r problemau mae ein cymunedau gwledig yn eu hwynebu."
Dywedodd yr Athro Paul Harper, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data yn yr Ysgol Mathemateg: "Datblygwyd y rhaglen waith hon mewn cydweithrediad clos â'r cymunedau gwledig er mwyn i ni allu deall eu hanghenion a gweithio gyda'n gilydd ar arloesiadau posibl fel y gallwn elwa o'r gorau sydd gan y dechnoleg 5G newydd i'w gynnig."
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart: "Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddileu'r gwahaniaeth o ran cysylltedd rhwng ardaloedd trefol a gwledig a hefyd ymchwilio i ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg 5G i ddatblygu diwydiannau newydd er mwyn cefnogi ein heconomi wledig yng Nghymru.
"Mae cyhoeddiad heddiw'n gyfle gwych i rannau gwledig o Gymru hybu cynhyrchedd a chapasiti eu seilwaith digidol gan ffurfio rhan allweddol o'n cynlluniau i sicrhau bod y DU yn addas at y dyfodol."