Cyngor alcohol arloesol yn helpu Lluoedd Arfog y DU
26 Chwefror 2020
Mae cynllun sy’n cymell gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd i ‘Fynnu Gair’ gyda chleifion am ddefnydd alcohol wedi ei gyflwyno ar draws Lluoedd Arfog y DU - y tro cyntaf i hyn gael ei wneud unrhyw le yn y byd yn y lluoedd arfog.
Cafodd rhaglenni hyfforddi a brandio ‘Mynnwch Air’ eu sefydlu a’u datblygu yng Ngrŵp Ymchwilio i Drais Prifysgol Caerdydd er mwyn cael canlyniadau ar gyfer eu treialon sgrinio alcohol, a rhoddwyd peth o’r cyngor ar waith yn y GIG.
Mae hyn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ymarferwyr i gyflwyno cyngor effeithiol i gleifion i sbarduno newid ymddygiad tuag at alcohol.
A hwythau wedi eu mabwysiadu eisoes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Lloegr, cyflwynwyd ‘Mynnwch Air’ yn 2016 i helpu mynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol yn lluoedd arfog y DU - sydd yn ôl y sôn yn uwch na’r boblogaeth gyffredinol, gydag amcangyfrif o lefelau yfed risg uwch yn amrywio rhwng 39% a 67% o gyfanswm poblogaeth y lluoedd arfog.
Mae papur a ysgrifennwyd ar y cyd gan yr Athro Jonathan Shepherd a’r Grŵp Ymchwilio i Drais, ac a gyhoeddwyd yn BMJ Military Health, yn esbonio sut y cafodd 276,000 o bersonél Lluoedd Arfog y DU eu sgrinio dros ddwy flynedd o brofion a thriniaeth reolaidd gan ddeintyddion milwrol.
“Mae’r gweithrediad wedi bod yn wych”, meddai’r Athro Shepherd.
“Trwy gael sgwrs a gofnodwyd ar gychwyn triniaeth, roedd deintyddion milwrol yn gallu rhoi cyngor cryno i bersonél yr oedd angen cyngor arnynt ynghylch eu defnydd ar alcohol.
“Fel rhan o gyflwyniad ‘Mynnwch Air’, hyfforddwyd dros 1,000 o bersonél Gofal Iechyd Sylfaenol Milwrol i gynghori a chyfarwyddo cleifion a oedd i’w gweld yn agored i niwed yng nghyswllt alcohol."
Mae cleifion sy’n mynychu Canolfannau Deintyddol DPHC bellach yn cael eu sgrinio yn rheolaidd. Dyma’r defnydd mwyaf ar sgrinio alcohol yn y boblogaeth filwrol erioed.
Ysgrifennodd y cyd-awdur Mark Dermont, Uned Iechyd Cyhoeddus y Lluoedd Arfog, Gwasanaethau Meddygol y Lluoedd Arfog: “Mae effeithiau camddefnyddio alcohol ar Bersonél y Lluoedd Arfog (SP) yn gallu bod yn sylweddol, gan gynnwys trais wedi ymfyddino, newidiadau negyddol mewn perthnasau, problemau adref, hunan-niweidio, ac amryw o droseddau disgyblaeth - a hwythau oll yn peryglu lles yr unigolyn, a hefyd effeithlonrwydd ymgyrchol.
“Mae’r fenter yn gam cyntaf tuag at y nod o sicrhau llwybr safonol ar gyfer sgrinio alcohol a thriniaeth gysylltiedig ar draws y DPHC, gan gydnabod bod y Gwasanaethau Meddygol Milwrol ond yn un agwedd ar yr ymagwedd iechyd cyhoeddus ehangach sydd ei hangen er mwyn mynd i’r afael â niwed sy’n deillio o alcohol ymhlith Personél Milwrol.”
Cefnogir ‘Mynnwch Air’ gan gardiau waled, Cwestiynau Cyffredin ar gyfer timoedd deintyddol a chyfarwyddyd ynghylch ymyriadau addas yn seiliedig ar sgôr yr unigolyn o ran camddefnyddio alcohol. Cynigir atgyfeiriad gofal sylfaenol i yfwyr dibynnol i gyfleuster meddygol DPHC.
Gall cleifion hefyd gael eu cyfeirio at linell gymorth yfed genedlaethol gan ddefnyddio’r rhif ffôn ar eu carden waled.