Cam yn agosach at adfer coedwigoedd glaw
26 Chwefror 2020
Mae prosiect gwrthbwyso carbon Prifysgol Caerdydd wedi cyrraedd £15,000 mewn rhoddion dim ond pedwar mis ar ôl lansio.
Mae Aildyfu Borneo’n rhoi’r cyfle i staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd wrthbwyso’r carbon sy’n deillio o hedfan.
Cafodd ei greu gan Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy’r Brifysgol a Chanolfan Maes Danau Girang, yng nghoedwig law Kinabatangan ym Malaysia.
Mae canllawiau am roddion argymelledig yn cynnig syniad i hedwyr am faint i’w roi, gan amrywio o £10 i £130.
Bydd yr holl roddion yn cefnogi gwaith plannu coed yng nghoedwig law Kinabatangan Is, Borneo – ardal o harddwch eithriadol ond un sydd o dan bwysau cynyddol gan y newid yn yr hinsawdd a gweithgareddau dynol.
Pan gafodd ei lansio ym mis Hydref 2019, pennodd Aildyfu Borneo nod o £15,000 i’w godi dros 12 mis.
Mae’r rhoddion eisoes yn uwch na’r ffigur hwnnw, a hyd yn hyn, mae Aildyfu Borneo wedi codi cyfanswm o £16,521.
Yn ôl Dr Benoit Goossens, o Ganolfan Maes Danau Girang: “Tra bod lleihau hediadau’n hanfodol, rydym yn gwybod bod rhai hediadau’n anochel. Mae Aildyfu Borneo - y prosiect cyntaf o’i fath ymhlith prifysgolion y DU - yn cynnig cyfle i unigolion sy’n cymryd hediadau angenrheidiol wrthbwyso effaith eu teithio."
Gyda’r rhoddion, bydd gwaith aildyfu yng nghoedwig law Kinabatangan yn dechrau ym mis Mai neu Fehefin, ar ôl tymor y glaw.
Ychwanegodd Dr Goossens: “O Ganolfan Maes Danau Girang, rydym wedi gweld dros ein hunain y difrod a achosir gan olew palmwydd, torri coed yn anghyfreithlon a thrychinebau amgylcheddol.
“Mae datgoedwigo wedi torri’r goedwig yn wahanol rannau, gan leihau’r cynefin sydd ar gael i rywogaethau mewn perygl, fel yr orangwtan, y mwnci trwynog ac eliffant Borneo.
“Mae coedwigoedd trofannol yn arbennig o effeithiol yn cymryd carbon allan o’r atmosffer a’i storio fel pren neu yn y pridd. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith plannu’n helpu i adfer yr amgylchedd hanfodol hwn.”
Sefydliadau cymunedol, megis The Batu Puteh Community Ecotourism Co-operative (KOPEL) a HUTAN fydd yn gyfrifol am blannu a chynnal coed ar safleoedd addas.
Bydd rhoddwyr yn gallu dilyn llwybr eu rhoddion ac yn cael y newyddion diweddaraf am faint o garbon sydd wedi’i dynnu allan o’r atmosffer yn ogystal ag effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd eraill.
Meddai’r Fonesig Judi Dench, Llysgennad dros Aildyfu Borneo: “Ar ôl ymweld â Borneo y llynedd, rwy’n falch o fod yn rhan o raglen Aildyfu Borneo. Mae’n waith bendigedig ac angenrheidiol, a hoffwn i bwysleisio eto pa mor falch ydw i i fod yn rhan ohono.”
Ynghyd â’r gwaith plannu, bydd academyddion o Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i faint o garbon sy’n cael ei ddal gan y prosiect, gan asesu ei effeithlonrwydd a’i effaith ar goedwig law Kinabatangan. Bydd eu gwaith yn llywio Aildyfu Borneo wrth iddo ddatblygu.