Cydnabod Caerdydd fel canolfan ‘meddygaeth fanwl’
24 Chwefror 2020
![PET scan image of the brain](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/1763962/PET-positron-emission-tomography-brain-scan-ed.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Caerdydd wedi ei chydnabod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer meddygaeth fanwl gan Innovate UK, rhan o’r asiantaeth cyllido ymchwil genedlaethol, Ymchwil ac Arloesedd y DU.
Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, partneriaid GIG Cymru a’r Ganolfan Gwyddorau Bywyd, fynychu lansiad y Rhwydwaith Canolfannau Rhagoriaeth ar gyfer Meddygaeth Fanwl y mis diwethaf. Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth (KTN) UKRI.
Mae KTN yn diffinio meddygaeth fanwl fel “technoleg sy’n galluogi diagnosis cynnar a chywir i lywio triniaeth claf, yn ogystal ag argaeledd y therapïau a dargedir”. Mae hyn yn cynnwys cyfuno gwybodaeth biofarcwyr clinigol â datblygiadau mewn technolegau delweddu diagnostig, dadansoddi data a therapïau datblygedig.
Cyfeirir at feddygaeth fanwl yn aml fel meddygaeth haenedig neu bersonoledig, ac mae ganddo’r potensial i drawsffurfio gofal iechyd trwy ddatblygu diagnosteg glinigol a thriniaethau targededig gwell o lawer.
Mae gan Brifysgol Caerdydd a’i phartneriaid bortffolio eang o ymchwil aml-ddisgyblaethol i feddygaeth fanwl, gan gynnwys delweddu, deallusrwydd artiffisial (AI), diagnosteg glinigol, technolegau biofarcwyr, genomeg, therapïau datblygedig a gwyddor data, yn ogystal â meddu ar gysylltiadau cryf â phartneriaid clinigol a busnes.
Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys chwe chanolfan rhagoriaeth sylfaenol - Caerdydd. Belfast, Glasgow, Leeds, Manceinion, a Rhydychen - a wnaeth ymuno â’r digwyddiad i gyflwyno a dathlu effaith y canolfannau hyn o ran hyrwyddo arloesi yn y maes hwn.
Yn ychwanegol at hyn, mae’r canolfannau wedi cynnig cyfleoedd i academyddion, busnesau a darparwyr gofal iechyd i weithio ar y cyd er mwyn cyflymu datblygiad meddygaeth fanwl ar gyfer budd iechyd a’r economi.
![Precision medicine group from Cardiff University](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1763964/PM-pic-2-ed.jpg?w=575&ar=16:9)
Mynychwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Cynadledda Clwb Pêl-droed Chelsea ar 30 Ionawr gan yr Athro Ian Weeks, a enillodd yn ddiweddar OBE am Wasanaethau i Drosglwyddo Gwybodaeth ac Arloesi Meddygol yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni.
Fe wnaeth aelodau’r Bartneriaeth Arloesi Clinigol, Prifysgol Caerdydd (yr Ysgolion Meddygaeth a Pheirianneg) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd fynychu. Cafwyd arddangosfeydd gan Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru, Technoleg Iechyd Cymru, a Phartneriaeth Genomeg Cymru.
Fe wnaeth eu cyflwyniadau amlygu rhai o gyfleusterau allweddol Caerdydd a meysydd ei harbenigedd mewn meddygaeth fanwl.
Er enghraifft, disgrifiwyd datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial, dysgu peiriannol, a dadansoddeg delweddau, gan ganolbwyntio ar dechnegau newydd sy’n cael eu defnyddio bellach mewn treialon yng Nghanolfan Ganser Felindre i lywio triniaethau canser.
Amlygwyd hefyd waith ar fiofarcwyr amryfal a dysgu peiriannol i alluogi diagnosis cynnar a chywir o heintiad, gan alluogi cleifion i gael eu trin yn fwy effeithlon. Fe wnaeth cyflwyniad pellach ddisgrifio’r cynnydd a wnaed o fewn GIG Cymru wrth gyflwyno system Gymru-gyfan ar gyfer patholeg ddigidol a sefydlu Partneriaeth Genomeg Cymru.
Amlygodd y cyflwyniadau y cyfleusterau unigryw sy’n cyfrannu at amgylchedd rhagorol ar gyfer meddygaeth fanwl yn y rhanbarth, megis CUBRIC (Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd), PETIC (Canolfan Delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau), ac Academi Delweddu Genedlaethol Cymru, a’r galluoedd o fewn gwyddor data a dysgu ffederal sy’n bwysig o ran trin symiau mawr o ddata meddygol.
Mae cyfranogiad Caerdydd yn y rhwydwaith hwn o ganolfannau yn cefnogi amcanion Papur Gwyn Strategaeth Ddiwydiannol y DU a Datganiad Ysgrifenedig diweddar Llywodraeth Cymru ar Feddygaeth Fanwl fel ei gilydd.