Twf ar y cyd yn America Ladin
21 Chwefror 2020
![Three men in wine production facility](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/1763401/Academics-at-Trivento-Vineyard.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Roedd arfer cydweithredol yn niwydiant gwin America Ladin yn ffocws i ymweliad rhyngwladol â’r Ariannin a Chile gan academyddion Prifysgol Caerdydd o’r Prosiect Cydweithredu Er Twf (Co-Growth).
Yn ystod y daith, cyflwynodd y Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Darllenwr mewn Logisteg yn adran Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd ac arweinydd y prosiect Cydweithredu Er Twf, Dr Juan Rendon Sanchez, Cydymaith Ymchwil o’r Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol a Gwybodeg, ganfyddiadau ymchwil ac arferion gorau ar y cyd i gyrff y diwydiant, gwinllannau a phrifysgolion ledled America Ladin.
Nod yr ymweliad oedd hefyd ennill dealltwriaeth well o’r arferion cydweithredu a fabwysiadwyd yn Chile a’r Ariannin a’r mesurau sy’n cael eu cymryd i greu cadwyni cyflenwi mwy cynaliadwy, tra’n wynebu realiti newid yn yr hinsawdd.
Cyfarfu’r academyddion â’r is-adran o Brifysgol Cuyo (Universidad Nacional de Cuyo, UNCuyo) ym Mendoza, y Brifysgol er Datblygu (Universidad de Desarrollo) a Phrifysgol Diego Portales yn Chile i drafod cynigion ymchwil ar y cyd ac i ddeall yr ymchwil sydd eisoes yn cael ei gwneud yn eu sectorau gwin.
Gwnaethant hefyd gwrdd ag uwch reolwyr o Wines of Chile, gwinllannau San Pedro a Vina Requingua Chile, a Grŵp Peñaflor a gwinllan Trivento sydd ym meddiant Grŵp Concha y Toro, Mendoza, i glywed o lygad y ffynnon yr heriau y mae cynhyrchwyr a chyrff y diwydiant yn eu hwynebu a’r cydweithredu sydd eisoes yn digwydd.
Eglurodd y Dr Sanchez Rodrigues a’r Dr Rendon Sanchez sut mae’r prosiect am hwyluso cydweithredu â sector diodydd Cymru drwy ddefnyddio ymchwil clwstwr, a sut y gallai deilliannau o’r prosiect gael eu defnyddio yn sectorau gwin America Ladin.
“Mae’r prosiect yn fodd i fusnesau dyfu ar y cyd,” eglurodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues.
Rhannu galluedd
![Group of men and women lineup for photograph](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/1763403/Group-of-people-at-Wines-of-Chile.jpg?w=575&ar=16:9)
Ym Mendoza, cyfarfu Dr Sanchez Rodrigues ag is-adran o’r Centro de Estudios y Aplicaciones Logísticas (CEAL) ym Mhrifysgol Cuyo i ddechrau ar gynnig ymchwil ar y cyd.
Y weledigaeth i’r ymchwil ar y cyd yw rhoi egwyddorion y prosiect Cydweithredu er Twf ar waith yn y diwydiant gwin lleol, gyda ffocws ar feicro-winllannau.
Fel yr eglurodd y Dr Sanchez Rodrigues yn ystod ei ymweliad, gall yr ethos gael ei roi ar waith ar bron unrhyw gam o’r gadwyn gynhyrchu gan gynnwys potelu, pecynnu a chludiant, ymhlith pethau eraill.
“Does gan bob busnes yr un gallu i gynhyrchu a photelu, felly y syniad yw rhannu’r galluedd hwnnw,” meddai.
“Ffocws yr ymchwil yw’r grŵp hwn o fentrau bach a chanolig na all y rheolwyr ddelio â phroblemau penodol. Gall busnesau mwy, fodd bynnag, ymdopi â materion o’r fath, a hynny ar raddfa fyd-eang. Mae’n bwysig cyfuno’r agweddau diwylliannol a thechnolegol.”
Gallai’r Dr Rendon Sanchez hefyd gysylltu ei waith modelu ar y prosiect Cydweithredu er Twf â gwaith a gyhoeddwyd gan aelodau CEAL ar fodelu cydweithredu llorweddol yn y diwydiant gwin.
Gall y deilliannau dysgu hyn hefyd gael eu rhoi ar waith mewn meysydd cydweithredu yn sector diodydd Cymru.
Cylch dieflig
Roedd cynaliadwyedd yn thema gyson wrth ymweld â Chile, lle mae deilliannau dysgu’r prosiect yn cynnig atebion sy’n berthnasol i’w diwydiant gwin, yn benodol o ran potelu, dosbarthu cynnyrch, a hyd yn oed sianeli dosbarthu newydd ar gyfer allforio.
Cred y Dr Sanchez Rodrigues fod y prosiect yn fodd i hwyluso cydweithredu rhwng gwinllannau mwy ar safoni arferion cynaliadwyedd, gan alluogi gwinoedd Chile i fod yn frand mwy cynaliadwy.
Mae eisoes wedi dechrau trafodaethau cynnar ar syniadau cynnig â’r Dr Mauricio Varas o’r Universidad de Desarrollo a’r Dr Franco Basso Solt o Universidad Diego Portales yn Chile ar safoni arferion cynaliadwyedd, a fydd yn galluogi gwinoedd Chile i fod yn frand mwy cynaliadwy.
“Nodwyd sawl cyfle ar gyfer cydweithredu yn ystod yr ymweliad, gan gynnwys cydweithredu ar y ddwy ochr ar oruchwylio traethodau hir myfyrwyr MSc a datblygu model cydweithredu ar gyfer sector gwin Chile i’w addasu at ddibenion newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd.”
Rhwydwaith rhyngwladol
Bydd rhyngwladoli’r prosiect Cydweithredu er Twf yn sicrhau bod arferion gorau byd-eang yn cael eu nodi a’u deall er mwyn eu defnyddio yn sector diodydd Cymru.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2564331/598319-1632238760289.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Fel academydd, roeddwn am weithio gydag America Ladin gyfan, ac rydym hefyd yn gweithio gyda phrifysgolion yn Chile a Siapan. Y bwriad yw sefydlu rhwydwaith rhyngwladol.”