Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu rhagoriaeth gyda gwobrau myfyrwyr

21 Chwefror 2020

Cafodd myfyrwyr rhagorol ac ysgoloriaeth o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo ar 7 Chwefror, 2020.

Dan arweiniad Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Paul Milbourne a’r Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu, Dr Chris Bear, mae’r digwyddiad gwobrwyo blynyddol wedi dod â’r myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy’n perfformio orau at ei gilydd, yn ogystal â’r rheiny sydd wedi cael bwrsariaethau neu ysgoloriaethau ar gyfer eu hastudiaethau.

Llwyddiant israddedigion

Cafodd myfyrwyr o bob rhan o bortffolio israddedig yr Ysgol eu hanrhydeddu yn ystod y seremoni. Dyfarnwyd gwobrau i’r rheiny sydd wedi cael y marc uchaf ar gyfartaledd yn y flwyddyn gyntaf neu'r ail flwyddyn, a’r rheiny sydd wedi gwella’n sylweddol o flwyddyn un i ddau. Llongyfarchiadau i’r canlynol am eu gwaith caled a’u cyflawniadau: Jack Collard, Robert Blake, Tamika Hull, Ellie Roe, Charlotte Corthorne, Ffion Sophie Middleton, Ellie Louise Horan, Hannah Burston, Isobel Seamer, Hannah Morgan, Harriet Sarah Hipwell, Jacob Lloyd Evans, Lewis Rhys Byng, Meng Chen, Chris Burgess.

Cafodd derbynyddion ysgoloriaeth eu cydnabod hefyd, gan gynnwys Ffion Middleton a gafodd Ysgoloriaeth George Rich 2019 a derbynyddion Ysgoloriaeth Prifysgol Caerdydd, Laura Ferencova, Katharine Forbes, Nerys Davies ac Anthony Storkey.

Gwobrau ôl-raddedig

Yn ogystal â’r gwobrau israddedig, rhoddodd y digwyddiad gyfle i gydnabod ôl-raddedigion presennol sydd wedi cael ysgoloriaethau a bwrsariaethau eleni. Eleni, roeddynt yn cynnwys derbynyddion Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr Prifysgol Caerdydd: Angharad Owen, Annamaria Sgueglia, Cerys Smith, Fatima Moreno Viera, Holly McElroy, Hasnain Ikram, Jack Satterthwaite, Jordan Wilson, Michael Clawson, Nia Roberts, Stephanie Laidlaw.

Hefyd, cafodd derbynyddion Bwrsariaeth Brian Large a Bwrsariaeth Rees Jeffreys – mae’r rhain yn ysgoloriaethau wedi’u hariannu’n allanol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio Cludiant a Chynllunio. Llongyfarchiadau i Thomas Morris, Angelique Caranzo, Daniel Gillen ac Ilias Geronikolos.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.