Ewch i’r prif gynnwys

Hanesydd o Brifysgol Caerdydd yn curadu arddangosfa bwysig ar yr ecsodus o Baris

27 Chwefror 2020

Professor Hanna Diamond
Professor Hanna Diamond

Mae storïau pobl o Baris a adawodd brifddinas Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ganolbwynt arddangosfa bwysig.

Bu’r Athro Hanna Diamond o Brifysgol Caerdydd yn cydweithio â Dr Sylvie Zaidman, prif guradur a chyfarwyddwr yn Arddangosfa Rhyddhau Paris – Arddangosfa’r Cadfridog Leclerc – Arddangosfa Jean Moulin, i guradu arddangosfa gyntaf yr amgueddfa newydd sy’n agor ar 27 Chwefror.

Aeth bron i 80 mlynedd heibio ers i ddwy filiwn o ddynion, menywod a phlant ffoi o Baris mewn ychydig ddyddiau’n unig, ar ôl i’r gair fynd ar led bod yr Almaenwyr yn agosáu at brifddinas Ffrainc. Ymunon nhw â chwe miliwn o ffoaduriaid eraill a oedd eisoes ar daith. Yr ecsodus oedd yr enw a roddwyd ar y ffoi hwn, na welwyd ei debyg erioed, gan bobl i dde a gorllewin y wlad.

Gwyliwch y fideo yma am yr arddangosfa

Gan ddefnyddio deunydd archif helaeth – gan gynnwys ffilmiau, ffotograffau, atgofion ysgrifenedig a darluniau plant – mae’r arddangosfa’n bwrw goleuni ar brofiadau personol pobl a fu’n byw drwy’r cyfnod hwn.

Meddai’r Athro Diamond, o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd: “Dyma’r arddangosfa gyntaf i ganolbwyntio ar gyfnod trist iawn yn hanes Ffrainc, y mae’r trawma sy’n gysylltiedig ag ef yn dal i effeithio ar deuluoedd heddiw. Bron i 80 mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n gobeithio y bydd y storïau rydym wedi’u crynhoi yma yn mynd gam o’r ffordd i roi gwybod i’r cyhoedd am eiliad allweddol yn y rhyfel a anwybyddwyd hyd yma.”

The exodus, May-June 1940
The exodus, May-June 1940 © LAPI/Roger-Viollet

Ar 3 Medi 1939, cyhoeddodd y Deyrnas Unedig a Ffrainc ryfel ar yr Almaen Natsïaidd. Roedd yr ychydig fisoedd cyntaf yn gyfnod o aros; ychydig o weithredu ar raddfa fawr a ddigwyddodd yn ystod yr hyn a elwir yn ‘rhyfel ffug’. Dechreuodd yr Almaenwyr ymosod ar 10 Mai 1040.

Ar 3 Mehefin 1940, bomiwyd Paris am y tro cyntaf. Wythnos yn ddiweddarach, gadawodd y llywodraeth Baris yn dawel bach, gan adael y trigolion i gymryd eu bywydau i’w dwylo eu hunain.

Rhwng 3 a 14 Mehefin, aeth panig ar led yn gyflym ymysg pobl Paris. Cydiodd tri chwarter y boblogaeth ym mha bynnag eiddo posibl a gadael eu cartrefi. Roedd y ffyrdd dan eu sang o geir, beiciau a cherti. Gadawodd rhai ar droed.

Meddai’r Athro Diamond: “Penderfynodd rhieni ofnus yr oedd eu plant yn dechrau blino eu rhoi nhw i gerbydau a oedd yn pasio heibio, gan feddwl y byddent yn gallu cwrdd yn y dref nesaf. Ond yn yr anhrefn a ddilynodd, cafodd 90,000 o blant eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Cymerodd hi fisoedd i bawb ddod yn ôl at ei gilydd.

“Bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn gallu ymgolli yn y cyfnod hwn er mwyn dysgu am y bobl a brofodd y digwyddiadau brawychus hyn sydd y tu hwnt i’r dychymyg.

Mae’n bwysig bod y storïau hyn yn cael eu cofio gan fod hon yn bennod allweddol i’r hyn a ddigwyddodd yn ddiweddarach yn y rhyfel ac mae’n ein helpu i ddeall Ffrainc heddiw.

Yr Athro Hanna Diamond Professor of French History

Meddai Sylvie Zaidman, prif guradur a chyfarwyddwr Amgueddfa Rhyddhau Paris – Amgueddfa’r Cadfridog Leclerc – Amgueddfa Jean Moulin: “Mae ein harddangosfa’n canolbwyntio ar yr eiliad dyngedfennol hon yn hanes Ffrainc. Mae pen-blwydd y digwyddiadau yn 80 oed yn eiliad addas i ystyried sut bu i nifer enfawr o sifiliaid ffoi, rhywbeth sydd fwy neu lai wedi’i anwybyddu hyd yma. Mae ymchwil Hanna Diamond wedi ein galluogi i grynhoi amrywiaeth o ddeunyddiau archif i adrodd stori’r profiad trawmatig hwn a gafodd effaith bwerus ar gof unigolion, y cof torfol a’r cof Ewropeaidd.”

Yr Athro Diamond yw’r unig hanesydd o Brydain i gael ei chynnwys ar Conseil Scientifique yr amgueddfa, sef bwrdd cynghorol o haneswyr, curaduriaid ac archifwyr nodedig. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar sut brofiad oedd yr Ail Ryfel Byd i ddynion a menywod Ffrainc. Mae tystiolaeth bersonol, ar lafar ac ysgrifenedig, yn allweddol i’w gwaith ac ar hyn o bryd mae hi’n cyhoeddi am y ffyrdd y mae ei defnydd yn llywio dealltwriaeth y cyhoedd o’r gorffennol.

Bydd yr amgueddfa'n canolbwyntio ar arwyr yr Ail Ryfel Byd, Philippe de Hauteclocque a Jean Moulin, yn ogystal ag unigolion allweddol eraill, a'i chartref yw pafiliynau Ledoux o’r 18fed ganrif yn Place Denfert-Rochereau, uwchlaw cyn-bencadlys Byddin Gêl Paris. Mae mwy na 300 o wrthrychau, dogfennau a ffotograffau gwreiddiol, yn ogystal â fideos archifol gan lygad-dystion, yn olrhain digwyddiadau allweddol y cyfnod hwn. Gall ymwelwyr hefyd fynd o gwmpas prif gadarnle cadlywyddion Byddin Gêl Ffrainc, a leolir 100 o gamau o dan yr adeilad, sydd wedi’i adnewyddu’n ffyddlon ac yn gywir.

Cynhelir yr arddangosfa tan 30 Awst.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.