Lladrad a chribddeiliaeth yn brofiadau cyffredin, yn ôl morwyr
24 Chwefror 2020
Mae morwyr wedi siarad am y pwysau a achosir gan arferion llwgr pan maent yn cyrraedd rhai porthladdoedd.
Mae cyfweliadau gan academyddion o Brifysgol Caerdydd yn datgelu bod y rheiny sy’n gweithio ar y môr yn aml yn wynebu ceisiadau am arian a nwyddau pan fydd eu llong yn mynd i mewn i borthladdoedd. Siaradodd un morwr am ei griw’n cael eu gorfodi i ddogni bwyd rhwng porthladdoedd, tra nododd un arall ei fod wedi gweld goruchwylydd yn rhoi arian o’i boced ei hun, gan ofni y byddai gohiriad i’r amserlen yn arwain at golli ei swydd.
Dywedodd un morwr: “Mae porthladdoedd lle mae sigaréts ac alcohol mor bwysig, weithiau bydd y cwch tywys yn gwrthod dod ochr yn ochr oni bai bod gennych ddyn ar y bwrdd yn chwifio cartonau iddynt eu cymryd. Felly mae hynny’n gryn dipyn o bwysau.
“Mae’n achosi llawer o anesmwythder, digon i wneud i ddynion mewn oed grïo. Rydyn ni’n teimlo’n ddiymadferth. Mae’n ddiraddiol iawn.”
Hefyd, mae ymchwilwyr wedi clywed am achlysuron lle mae cyfarpar diogelwch hanfodol ar y llong yn cael ei beryglu gan bobl yn dwyn ffitiadau pres.
Dywedodd morwr arall: “Rydym yn mynd i rai porthladdoedd lle mae cryn dipyn o ladrata yn ein profiad ni. Felly, cyn cyrraedd, rydym yn mynd o gwmpas y llong ac yn tynnu’r holl ffitiadau pres fel na ellir eu dwyn. Mae’n gwneud i chi deimlo’n nerfus a phryderus. Rydym wedi cael hyfforddiant i ddelio â thanau, ond nid dynion tân ydym ni, felly mae colli cyfarpar diogelwch hanfodol drwy ladrad yn rhoi straen arnom ni.”
Mae’r tystebau personol hyn yn adeiladu ar ymchwil a arweiniwyd gan yr Athro Helen Sampson o Ganolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr (SIRC), ac wedi’u cynnwys mewn ffilm i godi ymwybyddiaeth o’u sefyllfa anodd. Mae dros 1.5 miliwn o bobl yn gweithio ar foroedd y byd, mewn amodau peryglus ac ymhell o’u cartrefi.
Meddai’r Athro Sampson, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol: “Mae ein hymchwil yn cynnig cipolygon ar yr heriau y mae morwyr yn eu hwynebu’n aml. Rydym wedi cael adroddiadau am swyddogion porthladd yn ymgymryd ag amrywiaeth o arferion llwgr, sy’n cynnwys hawlio rhoddion hwyluso, dwyn cyflenwadau, hawlio arian, dwyn ffitiadau pres a chyfarpar, a thwyll o ran cyflenwadau tanwydd, o’r enw ‘bunkers’.
“Dim ond hyn a hyn o wrthwynebiad sy’n bosibl rhag y fath arferion, ac mae polisïau cymharol newydd cwmnïau sy’n ymlynu â deddfwriaeth atal llygredd yn cyfyngu arnynt fwyfwy. Mae hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa annymunol pan maent yn cyrraedd porthladdoedd ac yn wynebu ceisiadau am bethau na allan nhw eu rhoi, gan unigolion pwerus sy’n gallu trefnu i oedi llongau a’u hatal, am gost sylweddol i’w cyflogwyr.
“Yn yr amgylchiadau hyn, mae morwyr yn ofni cael y bai a chael eu diswyddo gan eu cyflogwyr am unrhyw ddeilliannau negyddol sy’n codi o beidio ag ildio i’r hyn mae staff porthladdoedd yn gofyn amdano. O ganlyniad, gallai hyn eu gwthio tuag at wario eu harian personol neu ‘ysbeilio’ cyllid lles sy’n cael eu defnyddio ar gyfer cyfarpar hamdden ar y llong.
Bydd yr Athro Sampson yn cyflwyno’r canfyddiadau ac yn dangos y ffilm i gynulleidfa ddiwydiannol yng nghynhadledd Ewropeaidd CrewConnect yn Amsterdam ym mis Mai. Hefyd, bydd yn cael ei lledaenu i randdeiliaid o gwmnïau morio a phorthladdoedd ar draws y byd.
Ychwanegodd: “Mae hefyd yn bwysig bod cyflogwyr yn deall cyfyng-gyngor y morwyr yn y sefyllfaoedd hyn, a’r mesurau eithafol y maent yn gorfod cymryd o ganlyniad i fod mewn sefyllfa amhosibl. Rwy’n gobeithio bydd ein hymchwil yn gwella bywydau llawer o forwyr sy’n cael eu heffeithio gan y materion hyn.”
Mae fersiynau ar y ffilm ar gael yn Saesneg gydag isdeitlau yn Rwseg, Arabeg, Mandarin, Portiwgaleg, Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg. Maent wedi'u paratoi gyda chefnogaeth ariannol gan Sefydliad Lloyd's Register.
Sefydlwyd SIRC ym 1995 gyda’r nod o gynnal ymchwil i forwyr. Mae gan y Ganolfan bwyslais penodol ar faterion iechyd a diogelwch galwedigaethol. Dyma'r unig gyfleuster ymchwil rhyngwladol o'i fath ac mae wedi cynyddu profiad digyffelyb o ymchwil yn y maes.
Gallwch wylio’r ffilm lawn yma.