Ewch i’r prif gynnwys

The Music of Peter Maxwell Davies

20 Chwefror 2020

Peter Maxwell Davies at a desk
© Ros Drinkwater, ac wedi’i ailgynhyrchu gyda chaniatâd caredig

Mae llyfr newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn archwilio prif gyflawniadau a themâu’r cyfansoddwr Peter Maxwell Davies (1934–2016).

Mae Dr Nicholas Jones o’r Ysgol Cerddoriaeth wedi ysgrifennu’r llyfr ar y cyd â Richard McGregor, Athro Emeritws Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cumbria.

Cyhoeddwyd y llyfr ar 21 Chwefror, ac mae’n edrych ar gerddoriaeth Davies o safbwynt byd-eang, gan ymdrin â themâu a oedd yn amlwg yng nghorff ei gerddoriaeth. Mae hefyd yn archwilio ei brif gyflawniadau mewn mwy o fanylder, gan drafod detholiad o gyflawniadau eraill.

Mae’r themâu a drafodir yn cynnwys ei ddull a’i broses gyfansoddi; genre; ffurf a phensaernïaeth; tonyddiaeth a gwead; cyfeiriad; agwedd a gwerthusiad cerddorol, a thirwedd a lle. Gan ddefnyddio geiriau, erthyglau a nodiadau rhaglenni Davies ei hun, mae’r llyfr yn rhoi darlun o arferion a dulliau’r cyfansoddwr wrth lywio trafodaeth am ei gerddoriaeth.

Roedd Davies yn un o gyfansoddwyr rhyngwladol blaenllaw’r cyfnod ar ôl y rhyfel ac yn un o’r rhai mwyaf cynhyrchiol hefyd – mae rhestr ei waith yn cynnwys bron 550 o gyfansoddiadau ym mhob genre sefydlog. Dyma’r llyfr cyntaf o’i math i gynnig disgrifiad eang o allbwn cyfan y cyfansoddwr.

Dr Nicholas Jones Reader in Musicology

‘Cawsom y fraint o fynd i ystâd Davies i weld dyddiaduron personol y cyfansoddwr (nad ydynt ar gael i’r cyhoedd ar hyn o bryd) ac rydym wedi gallu defnyddio cynnwys y rhain wrth inni drafod y gerddoriaeth. Rydym yn archwilio pwysigrwydd symbolaeth yn ei gerddoriaeth, ac mae gennym fwy i’w ddweud nag a oedd eisoes yn hysbys am y pwnc hwn. Rydym hefyd yn trafod y ffaith bod gan bopeth a ysgrifennodd Davies ryw fath o gysylltiad bywgraffiadol.

‘Mae’r llyfr hefyd yn trafod y gweithiau cynnar am y tro cyntaf, a bydd pump o’r cyflawniadau cynnar hyn o ddiwedd y 1940au a dechrau’r 1950au yn ymddangos am y tro cyntaf erioed yma yn yr Ysgol Cerddoriaeth ar Ddiwrnod Astudio Peter Maxwell Davies ar 25 Ebrill.’

Mae The Music of Peter Maxwell Davies, a gyhoeddwyd gan Boydell and Brewer, ar gael nawr.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.