Ewch i’r prif gynnwys

Genom dyfrgwn yn help i ddeall gwaddol geneteg yr argyfwng llygredd a diogelu dyfodol y rhywogaeth

19 Chwefror 2020

Otter
Image credit: Mary Rothwell Hughes

Mae un o hoff famaliaid Prydain ar fin cael hwb wrth i wyddonwyr yn Sefydliad Sanger Wellcome ar y cyd â Phrosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd ddilyniannu a rhyddhau’r genom dyfrgwn Ewrasiaidd cyntaf o ansawdd uchel.

Cyhoeddir y genom heddiw drwy Ymchwil Agored Wellcome, lle bydd ar gael yn agored i’w ddefnyddio gan y gymuned ymchwil. Bydd yn galluogi cyrff fel y Prosiect Dyfrgwn i fanteisio ar y cyfoeth o ddata sydd wedi’u storio mewn archifau DNA, er mwyn deall bioleg dyfrgwn yn well a llywio’r ymdrechion cadwraeth sydd ar y gweill.

Yn y 1970au, achosodd llygredd a oedd wedi cronni yn yr amgylchedd gwymp syfrdanol ym mhoblogaethau dyfrgwn Prydain, o hyd at 94%. Gan fod dyfrgwn ar frig y gadwyn fwyd, roedd y dirywiad yn rhybudd bod ecosystemau afonydd Prydain mewn trafferth ddifrifol. Ers i’r llygryddion gwaethaf gael eu gwahardd, mae lefelau’r halogyddion wedi lleihau’n raddol. Mae dyfrgwn wedi dod yn ôl ac wedi dychwelyd i afonydd lle na fuon nhw ers degawdau.

Ond mae bygythiadau o hyd, gyda chemegion yr amheuir eu bod yn tarfu ar hormonau mewn anifeiliaid a bodau dynol yn cael eu defnyddio’n gyffredin mewn plaladdwyr, a’r rheini’n gallu cyrraedd afonydd. Does neb yn gwybod beth yw goblygiadau’r cemegion hyn i ddyfrgwn Ewrasiaidd, ond mae’r rhywogaeth yn dal i fod mewn perygl ac wedi’i rhestru fel “Dan Beth Bygythiad” ar Restr Goch IUCN.

Sefydlwyd Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd yn y 1990au er mwyn deall y cwymp yn y boblogaeth, a heddiw mae’n gweithio i ddarganfod sut mae dyfrgwn yn rhyngweithio â’u hamgylchedd ac i fonitro am fygythiadau newydd.

Mae dadansoddi iechyd ac ymddygiad dyfrgwn yn gallu rhoi mewnwelediad i’r hyn sy’n digwydd gydag aelodau eraill o’r ecosystem fel pysgod, adar, pryfed a bacteria. Mae gan y mewnwelediadau hyn oblygiadau i fodau dynol hefyd, gan fod llygryddion yn effeithio ar y dŵr rydym yn ei yfed ac yn nofio ynddo, yn ogystal â pheth o’r bwyd rydym yn ei fwyta.

Rhoddodd Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd samplau o DNA dyfrgwn Ewrasiaidd i wyddonwyr yn Sefydliad Sanger Wellcome. Wedyn cafodd sampl ei ddilyniannu i gynhyrchu’r genom cyfeirio dyfrgwn Ewrasiaidd cyntaf o ansawdd uchel.

Meddai Dr Frank Hailer, o Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd: “Bydd y genom dyfrgwn yn rhoi mynediad i ymchwilwyr at y cyfoeth o wybodaeth sydd wedi’i storio mewn archifau samplau dyfrgwn. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosibl i ni archwilio’r olion genetig a adawyd mewn DNA dyfrgi sy’n cofnodi sut cafodd yr unigolyn ei effeithio gan newidiadau yn ei amgylchedd, a sut addasodd iddyn nhw.”

Meddai Dr Elizabeth Chadwick, o Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd: “Mae gweld dyfrgwn yn ailgodi ym Mhrydain yn y degawdau diweddar wedi bod yn wych, ond rhaid i ni wylio rhag y bygythiadau sydd i’n dyfrgwn a’n hafonydd nawr a’r bygythiadau sy’n datblygu. Bydd y genom dyfrgwn yn ein galluogi i weld sut mae newidiadau amgylcheddol, fel cyflwyno neu wahardd cemegyn penodol, wedi effeithio ar ddyfrgwn gwyllt a’u gallu i oroesi. Gobeithio y bydd yn ein galluogi hefyd i achub y blaen ar fygythiadau i ddyfrgwn gwyllt i’r dyfodol – a hefyd cyfeirio at y bygythiadau sy’n datblygu i fodau dynol.”

Cyhoeddir y genom dyfrgwn yn rhan o brosiect 25 Genom Sefydliad Sanger Wellcome. Bydd hefyd yn cyfrannu i Brosiect Coeden Bywyd Darwin, pan fydd cyrff partner yn dilyniannu ac yn crynhoi genomau pob un o’r 60,000 o rywogaethau o anifeiliaid, planhigion, ffwng a phrotistiaid ledled Prydain ac Iwerddon.

Bydd y genomau hyn o ansawdd uchel yn galluogi gwyddonwyr i wneud darganfyddiadau newydd ynghylch sut mae rhywogaethau Prydain ac Iwerddon yn ymateb i bwysau amgylcheddol a pha gyfrinachau yn eu geneteg sy’n eu galluogi i ffynnu, neu fethu.

Meddai’r Athro Mark Blaxter, Arweinydd y Rhaglen ar gyfer rhaglen Coeden Bywyd yn Sefydliad Sanger Wellcome: “Mae gweithgarwch dynol wedi effeithio’n ddifrifol ar ddyfrgwn ym Mhrydain ac Iwerddon yn y gorffennol agos. Fy ngobaith yw y bydd data genomig yn helpu i lywio’r gwaith o lunio polisïau sy’n amddiffyn ac yn diogelu ein bywyd gwyllt anhygoel yn y dyfodol agos a thu hwnt.”

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil