Gwyddonwyr yn cynhyrchu cynllun brys i atal y dirywiad mewn rhywogaethau a chynefinoedd dŵr croyw
19 Chwefror 2020
Mae tîm byd-eang o wyddonwyr wedi datblygu’r Cynllun Adfer Brys cyntaf er mwyn gwyrdroi’r dirywiad sydyn yn rhywogaethau a chynefinoedd dŵr croyw’r byd.
Amlinellir y cynllun chwe phwynt mewn papur gwyddonol, a gyhoeddir heddiw yn BioScience, sy’n galw am gamau brys i fynd i’r afael â bygythion i fioamrywiaeth mewn afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd.
Dyfeisiodd tîm o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, WWF, Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur a Conservation International y cynllun i adfer cynefinoedd dŵr croyw, sy’n 1% o arwyneb y Ddaear ac sy’n gartref i 10% o’r holl rywogaethau.
Meddai Steve Ormerod, Athro Ecoleg Prifysgol Caerdydd, ymchwilydd dŵr croyw gydol ei oes a gyfrannodd i’r adroddiad: “Mae nentydd, afonydd, pyllau, llynnoedd a gwlyptiroedd y byd ymysg y cynefinoedd pwysicaf am gyfoeth eu rhywogaethau, ond hefyd dyma’r rhai y mae pobl yn eu defnyddio a’u difwyno fwyaf. Meddyliwch am lygredd, y cyflenwad dŵr, newidiadau ffisegol ac effeithiau newid hinsawdd ar lif a thymheredd dŵr.
“O ganlyniad, yn aml ynghudd o dan arwyneb y dŵr, mae ecosystemau dŵr croyw yn colli bioamrywiaeth yn gynt nag unrhyw fath arall o ecosystem. Nid trychineb ynddi ei hun yn unig yw hwn; mae’n bygwth ein system cynnal bywyd ni ein hunain oherwydd pwysigrwydd sylfaenol popeth y mae dŵr yn ei olygu i fywyd dynol.”
Mae’r cynllun yn cynnwys adfer llif afonydd mwy naturiol, lleihau llygredd, diogelu cynefinoedd gwlyptir allweddol, dod â gorbysgota a chloddio’n anghynaladwy mewn afonydd a llynnoedd i ben, rheoli rhywogaethau goresgynnol, a diogelu ac adfer cysylltedd afonydd drwy gynllunio cronfeydd a seilwaith arall yn well.
Hefyd mae’r awduron yn argymell targedau newydd, gan gynnwys adfer llif dŵr, rheoli cloddio anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig am dywod mewn afonydd, a gwella rheolaeth pysgodfeydd dŵr croyw sy’n bwydo cannoedd o filiynau o bobl.
Meddai Dave Tickner, prif gynghorydd dŵr croyw WWF-UK a’r prif awdur ar y papur: “Does unman lle mae’r argyfwng bioamrywiaeth yn fwy difrifol nag yn afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd y byd – gyda dros chwarter y rhywogaethau dŵr croyw bellach yn anelu am ddifodiant. Gall y Cynllun Adfer Brys atal y dirywiad hwn sydd wedi digwydd ers degawdau, ac adfer bywyd i’n hecosystemau dŵr croyw sy’n marw; nhw yw sylfaen pob un o’n cymdeithasau a’n heconomïau.”
Ychwanegodd yr Athro Ormerod: “Does gennym ni ddim llawer o amser i newid pethau, ac rydym yn annog y Cenhedloedd Unedig a llywodraethau’r byd i weithredu ar y cynllun chwe phwynt allweddol hwn.”