Myfyriwr yn bachu ysgoloriaeth sy’n cefnogi awduron ar ddechrau eu gyrfa
18 Chwefror 2020
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/1761869/laptop-typing-Cropped.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Megan Angharad Hunter, sy’n astudio BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth yn Ysgol y Gymraeg, wedi ei henwi’n un o bum myfyriwr sydd wedi derbyn ysgoloriaeth, gwerth £3,000, i awduron newydd i ddatblygu a mireinio eu gwaith a’u sgiliau creadigol.
Mae’r ysgoloriaeth yn than o Gynllun Mentora a Bwrsariaethau Ysgrifennu Llenyddiaeth Cymru.
Wrth gyhoeddi’r enillwyr, dywedodd Llenyddiaeth Cymru ei bod “yn atgyfnerthu ei ymrwymiad at ddatblygiad artistig a phroffesiynol egin awduron yng Nghymru, trwy gynnig y buddsoddiad cywir ar yr amser iawn”.
Edrych ymlaen yn eiddgar
Yn ystod y flwyddyn, bydd yr awduron yn datblygu darn penodol o waith. Byddant yn cael cyfle i fireinio eu sgiliau, derbyn cefnogaeth gan fentoriaid a gwireddu eu gweledigaethau creadigol. Fe fyddant hefyd yn treulio cyfnod yn Nhŷ Newydd fel rhan o’r ysgoloriaeth.
Mae Megan yn edrych ymlaen at y flwyddyn o’i blaen a’r cyfle i weithio gydag awduron newydd eraill yn ogystal â mentoriaid ac awduron profiadol yn y maes: “Dwi'n hynod ddiolchgar i Lenyddiaeth Cymru am yr anrhydedd arbennig o dderbyn Ysgoloriaeth Awdur Newydd eleni. Edrychaf ymlaen yn arw at fynychu'r cyrsiau mentora sydd i ddod a chwrdd â’r awduron dawnus eraill sydd hefyd wedi ennill Ysgoloriaeth Awdur Newydd.
“Byddaf yn datblygu nofel ar gyfer oedolion ifanc sy'n dilyn dau ddisgybl yn y Chweched Dosbarth sy'n dioddef salwch meddwl a diffyg hunan hyder. Mae naratif un o'r cymeriadau mewn iaith anffurfiol iawn - rhyw gyfuniad o 'Wenglish' a iaith tecst - wrth imi geisio adlewyrchu iaith lafar pobl ifanc Arfon.”
Mae staff Ysgol y Gymraeg yn ymfalchïo yn llwyddiant Megan. Dywedodd Dr Llion Pryderi Roberts, arweinydd modiwlau creadigol yr Ysgol:
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/90480/IMG_4324.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Rydym i gyd yn falch iawn o Megan ac yn dymuno’n dda iddi wrth ddechrau ar y gwaith o lunio’r gyfrol gyffrous hon. Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn ei thaith yn ystod y flwyddyn a chael darllen y gwaith terfynol.”
Y Loteri Genedlaethol sy’n ariannu Ysgoloriaethau Awduron a Chynllun Mentora 2020 Llenyddiaeth Cymru, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Cefnogir 25 o awduron eleni.