Digwyddiad Gweithio gyda’n gilydd dros Systemau Bwyd Cyfiawn a Chydweithredol wedi’i gynnal yn y Senedd
28 Ionawr 2020
Mae adroddiad a ysgrifennwyd gan yr ymchwilwyr Dr. Poppy Nicol ac Alice Taherzadeh o’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, a gomisiynwyd gan Blaid Gydweithredol Cymru, wedi’i drafod mewn digwyddiad bwrdd crwn yn y Senedd.
Daeth 30 o randdeiliaid ynghyd i’r digwyddiad, a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2020, i drafod y sut gallwn gael systemau bwyd cyfiawn a chynaliadwy yng Nghymru.
Yn ystod trafodaeth yn y bore, ystyriodd ACau a rhanddeiliaid y rhwystrau rhag ehangu systemau bwyd cyfiawn a chynaliadwy yng Nghymru a’r newidiadau i bolisïau sydd eu hangen.
Roedd y rhanddeiliaid yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n gweithio yn y sector bwyd, gan gynnwys Rhwydwaith Cymru CSA, Maniffesto Bwyd Cymru, Synnwyr Bwyd Cymru, Land Workers Alliance Cymru, Open Food Network, RSPB Cymru, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Sustain, Ymddiriedolaeth Trussell, WWF Cymru yn ogystal â nifer o dyfwyr ac ymchwilwyr.
Mae’r bwrdd crwn yn cynnig y posibilrwydd o lansio rhwydwaith bwyd cyfiawn a chynaliadwy i barhau’r bartneriaeth hon. Mae’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy bellach yn trafod y camau nesaf i agor y drafodaeth ymhellach a chydweithio tuag at ddeilliannau ystyrlon ar sail canfyddiadau’r adroddiad.
Gellir lawrlwytho’r adroddiad llawn o wefan Prifysgol Caerdydd.