Lloegr yr Oleuedigaeth - All cymdeithas fod yn oddefgar heb fod yn seciwlar?
17 Chwefror 2020
Llyfr cyntaf gan hanesydd o Gaerdydd yn rhoi persbectif newydd ar Loegr yn sgîl rhyfeloedd crefyddol gwaedlyd Ewrop yn yr 17eg ganrif
Mae ffordd newydd o feddwl gan hanesydd o Gaerdydd yn datgelu sut bu awduron yn oes yr Oleuedigaeth yn Lloegr yn dadlau o blaid goddefgarwch a lluosedd crefyddol heb wahanu’r eglwys oddi wrth y wladwriaeth, gan gyflwyno cysyniad newydd crefydd sifil.
Yn ei lyfr arloesol Civil Religion and the Enlightenment in England, 1707-1800 mae’r hanesydd Dr Ashley Walsh yn datgelu sut ceisiodd meddylwyr blaenllaw drawsffurfio Eglwys Loegr yn grefydd sifil - ffydd gyhoeddus a weinyddir gan y wladwriaeth, oedd yn pregethu rhinweddau goddefgarwch a chymdeithasgarwch.
Roedd yr athronwyr David Hume a thrydydd iarll Shaftesbury, yr hanesydd Edward Gibbon a’r eglwyswr William Warburton, Esgob Caerloyw, ymhlith llawer a fu’n dadlau y gallai Cristnogaeth fod yn grefydd sifil, yn ôl Dr Walsh.
Er gwaethaf honiad yr athronydd Jean-Jacques Rousseau bod gan Gristnogion ormodedd o offeiriaid a’u bod yn anoddefgar, roedd yr awduron hyn yn gobeithio modelu eu crefydd sifil ar esiampl Iesu Grist a’r apostolion, yn ogystal â chrefydd sifil gweriniaeth hynafol Rhufain.
I’r awduron hyn, roedd yn angenrheidiol bod pawb yn cefnogi Eglwys Loegr fel crefydd genedlaethol, hyd yn oed os nad oeddent yn cytuno â’i dysgeidiaeth. Yn gyfnewid, byddai Eglwys Loegr yn cefnogi cymdeithas grefyddol luosryw. Roedd cadw defodau’r ffydd Brotestannaidd mewn modd gweladwy yn allweddol er mwyn perthyn i gymanwlad Gristnogol Lloegr Hanoferaidd, y cyfnod rhwng George I a’r Frenhines Victoria a fyddai’n dod yn adnabyddus am ei sefydlogrwydd cymharol.
Mae’r astudiaeth ryngddisgyblaethol hon, sy’n datgelu thema bwysig yn hanes deallusol a chrefyddol y 18fed ganrif, oedd yn cysylltu Rhufain yr oes glasurol â dyneiddiaeth Dadeni’r Eidal a’r Oleuedigaeth, yn tynnu ar dueddiadau ôl-seciwlar diweddar o ran theori cymdeithasol a gwleidyddol.
Mae Dr Walsh yn cyfuno hanes deallusol â hanes gwleidyddol ac eglwysig Eglwys Loegr, ac esboniodd: “Mae fy ngwaith yn herio ein tuedd i ragdybio bod goddefgarwch crefyddol a lluosedd crefyddol yn dibynnu ar broses o seciwlareiddio - gwahanu’r eglwys oddi wrth y wladwriaeth a thynnu crefydd allan o wleidyddiaeth. Er ein bod yn cysylltu’r Oleuedigaeth â’r syniadau mawreddog hyn, mae fy llyfr yn datgelu ffordd amgen o greu cymdeithas sifil trwy harneisio’r berthynas rhwng eglwys a gwladwriaeth a ffurfiwyd yn ystod y Diwygiad. Mae fy ngwaith ymchwil hefyd yn ein helpu i ystyried pam mae gan gymdeithasau fel Lloegr eglwysi sefydledig o hyd, a beth yw eu rôl heddiw mewn cymdeithas aml-ffydd.”
Mae Dr Ashley Walsh sy’n ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar, ac mae’n ymddiddori’n arbennig yn hanes deallusol, crefyddol a gwleidyddol yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif ym Mhrydain ac Ewrop, a hanes syniadaeth wleidyddol.
Cyhoeddir Civil Religion and the Enlightenment in England gan Boydell a Brewer. I gael rhagor o wybodaeth am yr awdur yn y cyswllt hwn, darllenwch y blog hwn.